Mwy o Newyddion
Galw am wirfoddolwyr i helpu pobl ddall a phobl sydd â golwg rhannol i fynd ar-lein
Mae RNIB Cymru (Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion) yn galw ar bobl yng Nghymru i roi ychydig oriau o'u hamser i helpu pobl ddall a phobl sydd â golwg rhannol i fynd ar-lein.
Yn ôl canfyddiadau ymchwil newydd [1] am wirfoddoli gan RNIB, mae 80 y cant o bobl sy'n gwirfoddoli yn dweud ei fod yn eu gwneud yn hapusach. Mae 47 y cant arall o ymatebwyr yn y DU nad ydynt yn gwirfoddoli yn dweud eu bod am wneud hynny yn y dyfodol, gyda mwy nag un o bob 10 o bobl yn awyddus i rannu eu sgiliau technoleg.
Comisiynwyd yr ymchwil i nodi dechrau menter RNIB i recriwtio mwy o wirfoddolwyr ar gyfer ei brosiect “Ar-lein Heddiw” er mwyn helpu 6000 o bobl sydd â cholled ar eu synhwyrau ledled Cymru i fynd ar-lein.
Ers ei lansio yn 2015, mae digwyddiadau Ar-lein Heddiw ledled Cymru a'r DU wedi helpu miloedd o bobl sydd â cholled golwg a chlyw i fynd ar-lein. Bellach, mae RNIB yn apelio ar bobl leol i roi ychydig oriau o'u hamser bob mis i ymweld â phobl dall a phobl sydd â golwg rhannol yn eu cartrefi eu hunain a'u helpu i ddatblygu sgiliau digidol fel pori'r we, anfon e-byst, a defnyddio e-ddarllenwr.
Dywedodd Chris Hoyle, Rheolwr Cynhwysiant Digidol RNIB Cymru: “Mae'n wych bod pobl mor awyddus i wirfoddoli yn lleol. Mae'n dangos bod gwirfoddoli a rhoi rhywbeth yn ôl i'ch cymuned wir yn dda i'r enaid.
“Dyma pam rydym eisiau pobl frwdfrydig ac ymrwymedig yng Nghymru i fod yn wirfoddolwyr Cymorth Sgiliau Digidol. Gall treulio ychydig oriau bob mis i helpu person sydd â cholled golwg i ddatblygu'r sgiliau ar-lein y mae llawer ohonom yn eu cymryd yn ganiataol, drawsnewid bywyd y person hynny a rhoi hwb i'w hannibyniaeth.”
Mae mwy na 106,000 o bobl sydd â cholled golwg yng Nghymru a byddai llawer ohonynt yn elwa o gael cymorth gan wirfoddolwyr i ddysgu sgiliau ar-lein.
I gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli ar gyfer Ar-lein Heddiw ewch i www.rnib.org.uk/onlinevolunteer