Mwy o Newyddion
Jonathan Edwards AS - Diffyg uchelgais Llywodraeth Llafur yn llethu economi Cymru
Mae Plaid Cymru wedi dweud fod y ffigyrau GERW (Government Expenditure and Revenue Wales) cyntaf erioed a gyhoeddwyd heddiw yn dangos sut y mae diffyg uchelgais llywodraeth Lafur Cymru yn yn llethu'r economi Gymreig.
Mae’r ffigyrau’n dangos fod gan Gymru ddiffyg ariannol o £14.7 biliwn sydd tua 24% o GDP cyfartalog.
Dywedodd Jonathan Edwards AS llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys mai’r prif reswm dros y diffyg hwn oedd y prinder o swyddi sy’n talu’n dda yng Nghymru – pwynt sydd wedi ei bwysleisio’n gyson gan Blaid Cymru am flynyddoedd lawer ond wedi ei anwybyddu gan lywodraeth Cymru.
Ychwanegodd fod y ffigyrau’n dangos yr angen am lywodraeth Plaid Cymru a’i phecyn uchelgeisiol o bolisiau i gryfhau’r economi Gymreig.
Dywedodd Jonathan Edwards AS: “Mae Plaid Cymru’n croesawu’r adroddiad pwysig hwn sy’n cadarnhau llawer o’r gwaith yr ydym wedi ei wneud ar y bwlch economaidd rhwng Cymru a gweddill y DU.
“Y prif reswm dros y diffyg hwn yw’r prinder o swyddi sy’n talu’n dda yng Nghymru – pwynt sydd wedi ei bwysleisio gan Blaid Cymru am flynyddoedd lawer ond wedi ei anwybyddu gan lywodraeth Lafur Cymru.
"Gyda lefelau diweithdra’n 5.2 y cant rhaid canolbwyntio ar greu swyddi o ansawdd uwch sy’n talu’n well a fyddai’n arwain at gwymp sylweddol ym maint y diffyg.
“Mae Plaid Cymru yn gwrthod ymostyngiad Llafur mai dyma’r gorau y gall ein gwlad ei wneud. Dyna pam ein bod yn cyflwyno pecyn mor gryf o bolisiau economaidd yn yr etholiad hwn.
“Llywodraeth Plaid Cymru fis Mai fyddai’r llywodraeth mwyaf cyfeillgar i fusnes y mae Cymru wedi ei gweld. Byddwn yn sefydlu WDA newydd i werthu Cymru, ei chynnyrch a’i syniadau i’r byd.
“Byddem hefyd yn ymestyn cymorth i fusnesau yn sylweddol drwy alluogi 70,000 o fusnesau bach Cymreig i beidio talu unrhyw drethi busnes, gan dorri trethi i 20,000 o fusnesau ychwanegol.
“Ar ben hyn, ein bwriad yw i roi mwy o gytundebau cyhoeddus i gwmniau lleol gan greu hyd at 4,000 o swyddi, a lansio’r rhaglen fuddsoddi fwyaf mewn isadeiledd ers datganoli.
“Tra bod pleidiau Llundain yn credu fod Cymru'n rhy fach, rhy dlawd a rhy dwp i lwyddo, mae gan Blaid Cymru hyder llwyr fod gan ein cenedl yr hyn sydd ei angen i greu economi gref a gwydn.”