Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Ebrill 2016

Cefnogaeth i ymgyrch Cymdeithas yr Iaith dros 'naid fawr ymlaen i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol'

Mewn neges at gefnogwyr Cymdeithas yr Iaith a fyddant yn ymgynnull yng Nghaerfyrddin heddiw i bwyso ar y llywodraeth nesaf i sicrhau “naid fawr ymlaen” i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bydd Adam Price yn dweud "Roedd sefydlu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol gan Llywodraeth Cymru'n Un ar ôl cenhedlaethau o ymgyrchu yn gam sylweddol ymlaen yn yr ymdrechion i greu cenedl gwirioneddol ddwyieithiog a hawl cydradd i bawb dysgu a datblygu eu potensial drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Ond cam cychwynnol oedd hwn yn unig a nawr yw'r amser i adeiladu ar y seiliau a osodwyd.

"Bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn ymrwymo i estyn model y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y tro cyntaf i faes addysg bellach a galwedigaethol.

"Yr ydym hefyd yn gweld rol canolog gan y Coleg mewn ymdrechion eraill i wella darpariaeth addysg mewn meysydd penodol, er enghraifft yn yn ein cynlluniau i wella ac uwchraddio hyfforddiant i athrawon cychwynnol a hefyd creu coleg gwasanaeth suful fel rhan o ysgol llywodraethiant newydd.

"Mae hyn yn ategu galwad y Gymdeithas ar i'r Coleg droi yn sefydliad addysg fodern a gorchwyl eang o'r alwedigaethol i'r academaidd yn cyfrannu'n helaeth at adeiladu'r genedl.

"Edrychwn  ymlaen yn fawr at gael y cyfle i gydweithio gydag aelodau y Gymdeithas i droi'r weledigaeth gyffrous hon yn realiti i'r Gymru gyfoes."

Bydd Meic Birtwhistle (Llafur), Suzy Davies (Ceidwadwyr) ac Aled Roberts (Rhyddfrydwr Democrataidd) hefyd yn rhoi negeseuon o gefnogaeth i’r cyfarfod tu allan i bencadlys y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn “Y Llwyfan” Caerfyrddin am 1pm heddiw.

Bydd arweinwyr myfyrwyr o Aberystwyth, Caerdydd, UCMC ac o’r Coleg Addysg Bellach lleol hefyd yn arwain awr o drafodaethau ar y safle ac yn cefnogi’r galwad ar y llywodraeth nesaf i ddatblygu swyddogaeth y Coleg Cymraeg i fod yn sefydliad addysg flaengar, a bydd band o fyfyrwyr ysgol “Adwaith” hefyd yn chwarae set o flaen y fynedfa.

Bydd Miriam Williams, Isgadeirydd y Gymdeithas yn galw am naid fawr ymlaen i’r Coleg.

Bydd yn dweud: "Yn hytrach na cheisio amddiffyn cyllideb y Coleg fel y mae, ein galwad ni yw bod y llywodraeth nesaf yn sicrhau naid fawr ymlaen i'r Coleg trwy roi iddo gyfrifoldeb dros addysg bellach ac addysg ôl-16 gyfrwng Gymraeg.

"Fel hyn gall y Coleg ddatblygu cyrsiau newydd perthnasol i anghenion Cymru yn hytrach na chyfieithu cyrsiau.

"Gall ddatblygu i fod yn sefydliad addysgol flaengar gan estyn egwyddor addysg gyfun i oedran 16+.

"Yn lle dilyn, gall addysg gyfrwng-Gymraeg arwain y ffordd wrth ddatblygu model newydd o addysg ol-16 ac uwch yng Nghymru.

"Bydd myfyrwyr ysgol a cholegau addysg bellach yn ymuno a ni a myfyrwyr prifysgolion i ddatgan fod y Coleg Cymraeg yn berthnasol iddyn nhw hefyd.

"Byddwn hefyd yn galw ar y llywodraeth i ddefnyddio ei dylanwad i sicrhau fod y Coleg Cymraeg yn cael cyfran teg o arian ymchwil a ddyrennir ar hyn o bryd yn ôl criteria sy'n milwra'n erbyn addysg Gymraeg." 

Llun: Adam Price

Rhannu |