Mwy o Newyddion
Gŵyl lwyddiannus
ROEDD Gŵyl y Gwendraeth Menter Cwm Gwendraeth yn llwyddiannus yn ystod ei wythnosau cyntaf.
Creodd Menter Cwm Gwendraeth raglen amrywiol ar gyfer yr ŵyl sy’n cael ei chynnal ar draws y cwm ym Mai a Mehefin
Mae’n cynnal digwyddiadau sy’n dod â grwpiau cymuned lleol o bob oedran ynghyd i ddathlu diwylliant modern a thraddodiadol Cymru. Mae Gŵyl y Gwendraeth yn denu tua 5,000 o bobl.
Bu Pencampwriaeth Cwisiau Pentrefi Cwm Gwendraeth yn llwyddiannus a chynhaliwyd y rownd derfynol ar ddydd Mawrth Mai 24 yng Nghlwb Rygbi Cefneithin gyda thîm Penygroes yn dod yn fuddugol a thîm O Blaid Cymru o’r Tymbl yn ennill Gwobr Goffa Dilwyn Roberts.
Roedd dangosiad y ffilm Patagonia yn Sinema Cross Hands yn atyniad poblogaidd, gyda mwy na 175 o bobl yn mynychu.
Cymerodd mwy na 20 car ran yn helfa drysor Pontiets a chodwyd £65 i Tŷ Hafan ar y noson.
Cynhaliwyd Darlith yr Ŵyl gan Dr Mererid Hopwood yn Neuadd Bethesda, Y Tymbl ar sut i fyw’n gynaliadwy.
Dywedodd Paul o Menter Cwm Gwendraeth: “Rydyn ni’n hapus gyda nifer y bobl a gymerodd ran eleni ac rydyn ni’n ceisio meddwl am syniadau newydd ar gyfer y flwyddyn nesaf.”
Dylai unrhyw un sydd am dderbyn e-byst ynglŷn â digwyddiadau Menter Cwm Gwendraeth gysylltu â Paul paul@mentercwmgwendraeth.org.uk
Llun: Dr Mererid Hopwood yn cyflwyno Darlith yr Ŵyl.