Mwy o Newyddion
Gŵyl newydd i arddangos gerddi gorau gogledd Cymru
Bwriedir lansio gŵyl gerddi bwysig newydd er mwyn ceisio denu twristiaid garddwriaethol i Ogledd Cymru a manteisio ar farchnad gwerth £5 biliwn.
O ddydd Sadwrn 28 Mai tan ddydd Sul 5 Mehefin, bydd rhai o erddi gorau Ynys Môn, Conwy, Gwynedd, Powys a Wrecsam yn agor eu giatiau i filoedd o ymwelwyr yn ystod yr Ŵyl Gerddi Gogledd Cymru gyntaf erioed.
Wrth i’r ŵyl fynd yn ei blaen bydd rhaglen lawn o ddigwyddiadau yn cael ei chynnal mewn gerddi gwahanol, fydd yn amrywio o deithiau tywys a gweithdai garddio i ymweliad gan hen drên stêm.
Gyda mwy nag 20 miliwn o arddwyr ym Mhrydain, mae’r ymgyrch i ddod â’r llu garddio i’r rhanbarth yn cael ei harwain gan Dwristiaeth Gogledd Cymru sy’n credu fod gan yr ŵyl botensial enfawr.
Mae’r farchnad arddwriaethol yn werth £5 biliwn bob blwyddyn - mwy na’r hyn y mae pobl y Deyrnas Unedig yn ei wario ar siocled.
Bydd yr ŵyl yn cael ei hagor yn swyddogol mewn digwyddiad tocyn yn unig, gyda mynediad i niferoedd cyfyngedig, yn harddwch Gerddi Cudd Plas Cadnant yn Ynys Môn gan y garddwr a’r darlledwr enwog Roy Lancaster CBE VNH.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Twristiaeth Gogledd Cymru, Jim Jones: “Mae rhai o’r gerddi mwyaf trawiadol yn y DU yma yng Ngogledd Cymru ac mae’r digwyddiad yn gyfle i’w tynnu at ei gilydd a’u harddangos i gymaint o bobl â phosib.”
Mae dros 100 o ddigwyddiadau unigryw wedi cael eu cynllunio yn y gerddi sy’n cymryd rhan dros naw diwrnod yr ŵyl, gan gynnwys cyngherddau cerddorol, ail-greu digwyddiadau hanesyddol, darlithoedd garddio, gweithdai ffotograffig, arddangosfeydd celf a cherfluniau, llwybrau plant, barddoniaeth a rhyddiaith a ysbrydolwyd gan arddio a gerddi, gwerthu planhigion a chystadlaethau amrywiol.
Trefnwyd dyddiadau’r ŵyl i gyd-fynd â chyfnod blodeuo diwedd gwanwyn, a fydd yn cynnwys rhododendrons, asaleas, magnolias, tiwlipau a blodau coed ceirios, gan wneud hyn yn un o’r adegau gorau o’r flwyddyn i ymweld â gerddi gwych gogledd Cymru.
Ychwanegodd Mr Jones: “Mae gan Ogledd Cymru rai o’r gerddi mwyaf trawiadol yn y DU gyfan, sy’n cael eu rhedeg gan ystod eang o sefydliadau gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac amrywiaeth o berchnogion preifat, ac rydym wedi cydweithio’n agos â nhw er mwyn trefnu’r digwyddiad arbennig iawn yma.
“Ein nod gyda’r ŵyl, a fydd gyda’r mwyaf sylweddol ac uchelgeisiol o’i bath yn y rhanbarth, yw dod â nhw i gyd at ei gilydd dan faner Gogledd Cymru.
“Mae’r ŵyl wedi cael ei marchnata yn helaeth ac rydym yn disgwyl denu miloedd o ymwelwyr nid yn unig o ardaloedd y gerddi eu hunain, ond hefyd o ardaloedd pellach i ffwrdd gan gynnwys rhannau eraill o Gymru yn ogystal â Gogledd Orllewin a Chanolbarth Lloegr.
“Mae gennym raglen gyffrous, ddiddorol a difyr o ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi ei threfnu, sy’n golygu y bydd yna o leiaf un digwyddiad arbennig yn digwydd mewn un neu fwy o’r gerddi bob bore, prynhawn a gyda’r nos.”
Cydlynydd yr ŵyl yw Tony Russell, yr arbenigwr gerddi sydd bellach yn byw yng Ngogledd Cymru, ac mae’n un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw Prydain ar goed a llwyni ac wedi ymddangos yn rheolaidd ar Gardener’s Question Time y BBC ac sy’n enwog am roi Gardd Goed Westonbirt yn Swydd Gaerloyw ar y map twristiaeth rhyngwladol.
Dywedodd: “Rwy’n gwneud llawer o waith i annog pobl i ymweld â gerddi ar draws y DU ac rwy’n darganfod er bod llawer o bobl yn gyfarwydd â rhai mewn llefydd fel Cernyw neu Caint, nad ydynt yn gwybod llawer am erddi Gogledd Cymru.
“Maent yn gwybod am atyniadau eraill y rhanbarth fel cestyll, rheilffyrdd stêm, mynyddoedd ac arfordiroedd ond nid ein gerddi, sydd gyda’r gorau yn y DU.
“Ein nod gyda’r ŵyl hon yw chwifio’r faner dros erddi gwych Gogledd Cymru.
“Yr hyn sy’n arbennig am y gerddi rydym yn eu cynnwys yw eu bod i gyd wedi eu lleoli mewn tirwedd mor arbennig ac oherwydd yr amodau rydym yn eu mwynhau maent yn cynnwys mathau o blanhigion na ellir eu gweld mewn llawer o ardaloedd eraill y Deyrnas Unedig.
“Rydym wedi ein bendithio â’r tri pheth sy’n gwneud y gwahaniaeth - digon o leithder oherwydd agosrwydd yr arfordir, gaeafau mwyn a phridd asidig.
“Mae hynny’n golygu bod planhigion fel lili’r Affrig, magnolias a camelias, sydd fel arfer yn tyfu mewn rhannau mwy egsotig o’r byd fel De Affrica, yn ffynnu yng Ngogledd Cymru.
“Mae gerddi hefyd yn faes busnes mawr erbyn hyn, gyda 30 miliwn o ymweliadau dydd yn cael eu gwneud i erddi ar draws y DU bob blwyddyn. Ac o’r 30 miliwn o ymwelwyr tramor sy’n dod i Brydain yn flynyddol mae 11 miliwn ohonynt yn ymweld â gardd rywbryd yn ystod eu hymweliad.”
Un o’r rhai sy’n falch iawn o gael cymryd rhan yn yr ŵyl yw Anthony Tavernor, perchennog Plas Cadnant ym Mhorthaethwy, Ynys Môn.
Dioddefodd ei ardd furiog enwog dipyn o ergyd wrth i lifogydd difrifol daro’r ardal fis Rhagfyr y llynedd, gan olchi wal 200 oed i ffwrdd a nifer o blanhigion prin.
Ond dywed Mr Tavernor, sydd wedi bod yn adfer y gerddi am 20 mlynedd, fod y gwaith atgyweirio yn symud ymlaen yn dda ar hyn o bryd.
“Mae pethau’n dechrau magu stêm erbyn hyn ac mae llawer o weithgarwch ar droed i adfer y gerddi,” eglurodd.
“Rydym yn rhoi ein cefnogaeth lawn i’r ŵyl ac yn falch iawn o gael y lansiad yma ar Mai 28.
“Y nod yw sefydlu Gogledd Cymru fel lle i ymweld ag ystod o erddi hardd ac i ddangos i bobl fod gennym rai o’r gerddi gorau yn y DU oherwydd ein hamodau tyfu da.”
Dywedodd y Garddwr nodedig Roy Lancaster, a fydd yn agor yr ŵyl: “Rydw i wedi bod yn ymweld â gerddi Gogledd Cymru am y 60 mlynedd diwethaf ac maent yn bendant gyda’r rhai mwyaf deniadol ym Mhrydain.
“Mae’r ŵyl yn gyfle i chi eu harddangos i gynulleidfa ehangach ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at yr agoriad swyddogol, yn enwedig gan ei fod ym Mhlas Cadnant, sydd wedi atgyfodi fel ffenics ar ôl cael ei difrodi mor ddrwg gan y llifogydd ofnadwy.
“O’r hyn rwyf wedi ei glywed maen nhw wedi gwneud gwyrthiau yno a fedra i ddim aros i weld.
“Mae’r ŵyl yn unigryw yng Ngogledd Cymru ac felly dylai wneud yn dda iawn, yn enwedig gan ei bod yn cynnwys cymaint o erddi bendigedig ac rydym yn bwriadu cynnig dewis eang iawn o atyniadau.
“Yn gyffredinol mae Gwyliau Gerddi yn dod yn hynod boblogaidd y dyddiau hyn ac rwy’n siŵr y bydd hon yn helpu i roi gogledd Cymru hyd yn oed yn fwy cadarn ar fap twristiaeth y DU.”
Mae’r gerddi yng Ngwynedd sy’n rhan o’r ŵyl yn cynnwys Plas Brondanw ym Mhenrhyndeudraeth, Fferm Planhigion Crug ger Caernarfon, Plas yn Rhiw ym Mhwllheli, Plas Tan y Bwlch ym Mlaenau Ffestiniog, Gerddi Caerau Uchaf yn y Bala, Portmeirion ym Mhenrhyndeudraeth, Neuadd Aber Artro yn Llanbedr, Castell Penrhyn yn Llandegai a, thrwy ei gwefan yn unig, Nanhoron ym Mhwllheli.
Yn Sir Fôn mae Plas Newydd yn Llanfairpwll a Phlas Cadnant ym Mhorthaethwy hefyd yn rhan o’r ŵyl.
Y gerddi o sir Conwy sy’n gysylltiedig â’r ŵyl yw Bodnant yn Nhal y Cafn, Castell Gwydir yn Llanrwst, gerddi’r Sw Fynydd Gymreig ym Mae Colwyn a Drysle Dyffryn Conwy yn Nolgarrog.
Ym Mhowys mae Gregynog yn y Drenewydd, y Ganolfan Dechnoleg Amgen ym Machynlleth, Castell Powis a Gardd Dingle ger y Trallwng i gyd yn rhan o’r ŵyl.
Y gerddi sy’n cymryd rhan o sir Wrecsam yw Castell y Waun ac Erddig Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.gardensnorthwales.co.uk/events