Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Mawrth 2016

Negeseuon testun am apwyntiadau ysbyty yn helpu'r Bwrdd Iechyd arbed mwy na £1.4m

Mae negeseuon testun wedi helpu rheolwyr iechyd yng Ngogledd Cymru arbed tua £1.4 miliwn drwy atal pobl rhag methu apwyntiadau.

Mae dros 500,000 o negeseuon atgoffa wedi cael eu hanfon at gleifion yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, yn eu hannog i gadw eu hapwyntiadau, aildrefnu ar gyfer dyddiad arall neu eu canslo os nad oes arnynt angen gweld meddyg erbyn hynny.

Mae'r ymgyrch gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) wedi helpu i leihau amseroedd aros i gleifion eraill hefyd drwy ryddhau apwyntiadau.

Mae'r cynllun ar waith mewn ysbytai ar hyd a lled Gogledd Cymru yn cynnwys Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ac Ysbyty Maelor Wrecsam.

Mae'n cynnwys negeseuon testun a galwadau i beiriannau ateb, yn ogystal â hyrwyddo ymgyrchoedd iechyd, megis annog y rhai sydd mewn perygl i gael eu pigiadau ffliw blynyddol.

Fe'i cyflwynwyd wedi i arolwg yn 2013 ddangos bod mwy na 70,000 o gleifion yn methu eu hapwyntiadau cleifion allanol.

Roedd bob apwyntiad a fethwyd yn costio rhwng £120 a £150 i'r bwrdd iechyd mewn amser staff a chyfleusterau a wastraffwyd - ac roedd yn golygu bod yn rhaid i gleifion eraill aros yn hirach i weld meddyg.

Dywedodd Rachel Whitehall, Rheolwr Cyffredinol Dros Dro Gofal wedi'i Drefnu yn BIPBC: "Mae'n bwysig bod pobl yn mynd i'w hapwyntiadau. Mae cleifion yn cael llythyr bob amser â dyddiad eu hapwyntiad - ond rydym yn cydnabod y gall y dyddiad fod ymhell ymlaen weithiau ac mae'n hawdd anghofio neu golli'r llythyr, ac mae amgylchiadau unigol yn gallu newid.

"Dyna pam ein bod wedi cyflwyno'r broses hon i atgoffa pobl - fel arfer tuag wythnos cyn eu hapwyntiad.

"Weithiau, mae'n bosibl y bydd ar bobl angen aildrefnu eu hapwyntiad, neu efallai eu bod yn teimlo nad oes arnynt ei angen erbyn hyn ac felly eisiau ei ganslo.

"Gan fod gan y rhan fwyaf o'n cleifion neu eu gofalwyr ffôn symudol, mae hon yn ffordd ardderchog o ddefnyddio technoleg er budd ein holl gleifion.

"Hefyd, mae'n ei gwneud hi'n syml iawn i gleifion wneud newidiadau sy'n gweddu i'w hamser nhw, ac felly ryddhau apwyntiadau i eraill."

Mewn darlun 12 mis o'r gwasanaeth, o fis Hydref 2014 i fis Medi y llynedd, gwnaed 1,113,184 o apwyntiadau yn y bwrdd iechyd.

Diolch i'r gwasanaeth atgoffa, gofynnodd mwy na 10,000 o gleifion am gael aildrefnu neu ganslo eu hapwyntiad - a llwyddwyd i lenwi dau draean o'r apwyntiadau hyn â chleifion eraill.

Mae'r negeseuon atgoffa yn cael eu hanfon saith niwrnod cyn yr apwyntiad drwy neges testun. Er mwyn canslo'r apwyntiad, neu apwyntiad eu plentyn neu ei aildrefnu, yr oll sydd angen ei wneud yw tecstio'r ateb NA neu AILDREFNU.

Efallai y bydd cleifion hefyd yn cael neges llais 24 awr cyn eu hapwyntiad, ac weithiau galwad gan un o weithwyr BIPBC.

Ar gyfer y cleifion hynny lle nad oes rhif ffôn symudol ar y ffeil, mae BIPBC yn anfon neges ddwyieithog wedi'i recordio i'w ffôn tŷ am yr apwyntiad. Mae gan y neges gyfarwyddiadau am gadarnhau, canslo neu aildrefnu'r apwyntiad.

Er mwyn diogelu cyfrinachedd cleifion, nid yw'r neges ddwyieithog yn cynnwys manylion sensitif fel lleoliad neu arbenigedd yr apwyntiad, rhag ofn bod y rhif symudol sydd ar y ffeil yn anghywir neu'n hen.

Gall cleifion hefyd optio allan o'r system os ydynt yn dymuno.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw’r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, yn cyflogi oddeutu 16,100 o staff. Mae'n darparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymunedol, iechyd meddwl ac ysbytai llym i boblogaeth o oddeutu 676,000 o bobl sy’n byw yng Ngogledd Cymru yn ogystal â rhai rhannau o ganolbarth Cymru, Sir Gaer a Sir Amwythig.

Mae’n rhedeg Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ac Ysbyty Maelor Wrecsam yn ogystal â 18 ysbyty llym a chymunedol arall a rhwydwaith o dros 90 o ganolfannau iechyd, clinigau, canolfannau timau iechyd cymunedol ac unedau iechyd meddwl.  Mae hefyd yn cydlynu gwaith 115 meddygfa Meddyg Teulu a gwasanaethau GIG a gynigir gan ddeintyddion, optegwyr a fferyllfeydd yng Ngogledd Cymru.

Prif weithredwr newydd BIPBC yw Gary Doherty, cyn Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Addysgu Blackpool a chyn hynny bu'n Ddirprwy Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbyty Addysgu Prifysgol  

Rhannu |