Mwy o Newyddion
Neges Pasg Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
ER ei fod yn ddi-fai, dioddefodd Iesu Grist o ganlyniad i sefyllfa wleidyddol dreisgar, meddai un o arweinwyr Cristnogol Cymru yn ei neges ar gyfer y Pasg.
"Teimlodd rym atgasedd, cafodd ei gyhuddo ar gam, ac fe'i hoeliwyd ar y groes fel gwrthryfelwr," meddai Dr Fiona Gannon (yn y llun), o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.
"Ddwy fil o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae pobl ddiniwed yn dal i gael eu lladd at ddibenion gwleidyddol, yng ngwlad Belg yn ogystal ag ar draws y Dwyrain Canol ac yng ngogledd Affrica.
"Ni all y sefyllfa hon newid nes bod pobl yn derbyn neges Iesu, sef mai cariad a maddeuant yw'r unig fodd i sicrhau heddwch a chymod parhaol," meddai Dr Gannon.
"Os daw'r ddynoliaeth i weld hynny, bydd yn mynd trwy broses o atgyfodiad ac yn mwynhau'r math o fywyd y mae Duw, trwy Iesu Grist, yn dymuno i bob un ohonom ei gael."
(Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yw un o'r enwadau Anghydffurfiol mwyaf yng Nghymru. Mae'n cynrychioli Cristnogion mewn 430 o gapeli.)