Mwy o Newyddion
Cymdeithas cefnogwyr CPD Dinas Bangor yn hel atgofion am anturiaethau tramor y clwb
Atlético Madrid… HJK Helsinki…Widzew Lodz... FC Midtjylland.... beth sydd gan y tîmau yma i gyd yn gyffredin? Maen nhw i gyd wedi chwarae yn erbyn Manchester United FC, ac hefyd i gyd wedi chwarae yn erbyn Clwb Pêl Droed Dinas Bangor!
Mae’r helyntion hyn ac atgofion y cefnogwyr wedi dod yn rhan o chwedloniaeth Bangor, yn bennod ramantus o hanes pêl-droed Cymru, ac yn rheswm pam bod Cymdeithas Cefnogwyr Clwb Pêl Droed Dinas Bangor wedi penderfynu cydweithio gyda STORIEL, sef Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ar ei newydd wedd i adrodd yr hanes. Mae STORIEL yn cael ei arwain ar y cyd gan Gyngor Gwynedd a Phrifysgol Bangor.
Gwahoddwyd Cymdeithas Cefnogwyr Clwb Pêl Droed Dinas Bangor i fod y grŵp cyntaf i ddefnyddio’r oriel gymunedol bwrpasol yn STORIEL. Mae gofod wedi’i neilltuo i alluogi cymunedau i adrodd stori Gwynedd drwy themâu penodol. Rhan yw hon o brosiect i alluogi pobl Gwynedd i gael mynediad gwell at gasgliadau’r Amgueddfa a Phrifysgol Bangor. Bydd arddangosfeydd llai yn agor ar draws y sir yn fuan fel rhan arall o’r prosiect.
Yn ddiweddar, aeth Iorys Griffith, seren leol y gêm bêl droed enwog yn erbyn AC Napoli yn 1962, y gêm gyntaf i Fangor ei chwarae yn Ewrop, draw i STORIEL i fwynhau’r arddangosfa gyda’i gefnder a chyn chwaraewr arall y tîm, yr actor John Ogwen.
Dywedodd Megan Corcoran ar ran Storiel: “Roedd yn bleser ac yn fraint cael arwain Iorys a John o amgylch yr arddangosfa. Hoffwn ddiolch i Gymdeithas Cefnogwyr Clwb Pêl Droed Dinas Bangor a’r aelodau o’r cyhoedd a ddaeth yma i roi benthyg trysorau o’u casgliadau i ni gael eu harddangos. Diolch i bawb!”
Mae’r arddangosfa yn STORIEL ar agor hyd 23 Ebrill 2016. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr arddangosfa yma, neu raglen ehangu mynediad STORIEL i gymunedau’r sir, cysylltwch gyda Megan Cynan Corcoran, Swyddog Cyfranogi Treftadaeth Cymunedol STORIEL ar 01248 353 368 neu ebostio: MeganCynanCorcoran@gwynedd.gov.uk
Mae STORIEL ar agor o ddydd Mawrth i Sadwrn o 11am hyd 5pm.
Lluniau:
1 - Iorys Griffiths yn amddiffyn y gôl, gyda gôl-geidwad, Len Davies y tu ôl iddo, a’r capten Ken Birch yn gwylio. Llun o gasgliad Geoff Charles o’r gêm AC Napoli ar Ffordd Farrar yn 1962 drwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
2 - John Ogwen a Iorys Griffith yn darllen trwy rhaglenni gêmau AC Napoli yn STORIEL