Mwy o Newyddion
AS Plaid Cymru yn cymryd camau yn San Steffan i sicrhau cyfran deg o arian HS2 i Gymru
Mae Llefarydd Plaid Cymru ar faterion y Trysorlys, Jonathan Edwards AS wedi cyflwyno gwelliant i'r Mesur HS2, a fydd yn cael ei drafod yn Nhŷ'r Cyffredin heddiw, sy’n galw ar Lywodraeth y DU i gyfaddef faint yn fwy o arian y byddai Cymru wedi derbyn petai prosiect seilwaith HS2 wedi ei ddynodi yn brosiect ‘Lloegr yn unig’.
Mae Plaid Cymru wedi gwneud sawl ymgais dros y pum mlynedd diwethaf i sicrhau swm canlyniadol llawn o arian i Gymru o brosiect HS2 er ei fod yn gyfan gwbl yn Lloegr sydd wedi cael ei ddiffinio fel prosiect ‘rheilffyrdd Cymru a Lloegr' at ddibenion gwariant y Trysorlys.
Mae Cymru wedi derbyn rhywfaint o arian o ganlyniad i wariant HS2 a dylai hynny barhau i’r dyfodol, ond bydd y symiau hyn yn cael eu boddi gan y symiau a ddyrennir i'r Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae Llywodraethau bob pen i'r M4 wedi methu â thrin Cymru yn gyfartal fel bod ein gwlad yn cael cyfran deg o arian canlyniadol o brosiect sy’n gyfan gwbl yn Lloegr yn ôl Mr Edwards.
Meddai: “Nid oes unrhyw reswm pam mae Cymru wedi cael ei wahardd rhag derbyn arian canlyniadol uniongyrchol llawn o brosiect HS2, yn enwedig gan fod y prosiect yn cael ei gyllido o drethiant uniongyrchol gan gynnwys trethi pobl Cymru.
“Nid yw Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwneud dim dros y tair blynedd ddiwethaf i geisio sicrhau cyfran deg o arian i Gymru o'r prosiect Rheilffordd Cyflymder Uchel (HS2), maent wedi bod yn ddigon parod i weld economi Cymru yn colli dros £200 miliwn y flwyddyn gyda trethdalwyr Cymreig yn gorfod talu am welliannau mewn system drafnidiaeth yn Lloegr.
"Yn y pen draw, mae Llafur hyd yn oed wedi datgan yr un linell â Llywodraeth Dorïaidd San Steffan, fod Cymru wedi derbyn y swm o arian sy'n ddyledus iddi o dan ddosbarthiad 'Cymru a Lloegr'.
“Oherwydd yr arian sydd dan sylw, mae gan bobl Cymru ddisgwyliad y bydd eu Llywodraeth eu hunain yn ymladd dros ariannu teg. Bydd Plaid Cymru yn sefyll dros diddordeb cenedlaethol Cymru ac yn ymladd i atal Cymru rhag colli allan ar gannoedd o filiynau o bunnoedd.
“Mae fy ngwelliant i'r Mesur HS2 yn ceisio sicrhau bod Llywodraeth y DU yn ail-ddiffinio HS2 fel prosiect Lloegr yn unig a bod Cymru yn derbyn gwariant canlyniadol llawn o ganlyniad i wneud hynny.
"Os yw'n cael ei ddewis, yr wyf yn llwyr fwriadu i wthio’r Cynnig i bleidlais.
"Bydd yn ddiddorol iawn gweld pa ffordd y bydd ASau Llafur Cymru yn pleidleisio.
"A fyddant yn ymuno â mi a sefyll dros bobl Cymru neu a fyddant yn eistedd ar eu dwylo?
“Er gwaethaf ymchwil annibynnol sy’n dangos y bydd HS2 yn cael effaith ddinistriol ar economi De Cymru, mae'r prosiect wedi cael ei gefnogi gan ASau Torïaidd a Llafur o Gymru.
“Mae pobl Cymru yn haeddu llywodraeth a fydd bob amser yn gweithredu er budd cenedlaethol Cymu yn hytrach na buddiannau penaethiaid yn Llundain.
"Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu'n gyson i Gymru dderbyn cyllid teg gan HS2 a bydd llywodraeth Plaid Cymru ym mis Mai yn sicrhau bod diddordeb cenedlaethol Cymru'n cael ei roi yn gyntaf bob amser pan ddaw i sicrhau ein bod yn cael bargen deg.”