Mwy o Newyddion
Y Prif Weinidog yn rhoi cydnabyddiaeth swyddogol i llwyddiant ysgubol tîm pêl-droed Cymru
Heddiw, fe wnaeth y Prif Weinidog, Carwyn Jones longyfarch tîm pêl-droed Cymru yn swyddogol ar ei lwyddiant ysgubol a hanesyddol wedi iddo gyrraedd y rowndiau terfynol mewn prif gystadleuaeth am y tro cyntaf ers 1958.
Yn ystod ymweliad â safle hyfforddi'r tîm ym Mro Morgannwg, tynnodd y Prif Weinidog sylw at y slogan 'Gorau Chwarae Cyd Chwarae' a oedd yn rhan annatod o'r ymgyrch diweddar.
Dywedodd Carwyn Jones: "Mae wedi bod yn bleser cael bod yma heddiw i longyfarch y chwaraewyr wyneb yn wyneb wedi iddyn nhw greu hanes a chyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2016 yn dilyn ymgyrch syfrdanol.
"Mae awyrgylch gadarnhaol a chyffrous trwy Gymru gyfan am yr hyn sydd wedi'i gyflawni ac mae'r asbri yn amlwg ymysg y chwaraewyr hefyd, hyd yn oed yn ystod sesiwn hyfforddi yma ar fore dydd Mawrth.
"Bydd llygaid y byd ar Ffrainc ym mis Mehefin ac rydw i a miliynau o bobl eraill yn hynod o falch y bydd crysau coch Cymru yna'n llu. Llongyfarchiadau a phob hwyl."
Dywedodd Rheolwr Tîm Cenedlaethol Cymru, Chris Coleman: "Rydyn ni fel carfan yn falch iawn o gael y gydnabyddiaeth swyddogol hon gan y Prif Weinidog ar ran y wlad.
"Rydyn ni i gyd yn canolbwyntio ar gystadleuaeth yr Ewros yn Ffrainc yr haf hwn. Ni allwn addo dim, ond rydyn ni'n benderfynol o wneud yn dda.
"Rydyn ni'n gwybod y bydd gennym gefnogaeth y wlad gyfan a gobeithio y byddwn yn gallu gwneud pawb yn falch ohonom yn ystod y gystadleuaeth."