Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Mawrth 2016

Gwerth miloedd o bunnoedd o ddifrod diangen i beiriant dyrchu ar yr Wyddfa

Mae swyddogion Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi eu siomi a’u tristhau gan y difrod a wnaed dros y penwythnos i beiriant tyrchu ar un o lwybrau cerdded prysuraf Cymru.

Rhwng 3 a 6 ar brynhawn Sadwrn, Mawrth 16, ar Lwybr Llanberis, malwyd pob ffenest o beiriant tyrchu’r Awdurdod gan gerrig.

Dywedodd Mair Huws, Pennaeth Gwasanaeth Wardeinio’r Awdurdod: “Mae ‘na werth miloedd o bunnoedd o ddifrod dianghenraid wedi ei wneud i beiriant yr ydan ni’n llwyr ddibynnol arno i gyflawni’n gwaith.

"Oherwydd gweithred cwbl ddiangen a disynnwyr rydan ni’n sicr o golli wythnos o waith ar lwybrau’r Wyddfa a ninnau’n paratoi at gyfnod prysur y pasg a’r haf.

"Oherwydd lleoliad anhygyrch y peiriant tyrchu, mae’n mynd i gymryd ymdrech lew i ddod â fo i lawr y mynydd i gael ei drwsio, heb sôn am gael peiriant arall yn ei le fydd yn ein caniatau ni i gario ‘mlaen â’r gwaith yn y cyfamser.

"Roedd hi’n ddiwrnod braf ddydd Sadwrn ac roedd llwybrau’r Wyddfa yn weddol brysur.

"Os oes gan unrhyw un wybodaeth am y digwyddiad, rydym yn apelio arnynt i gysylltu â heddlu Gogledd Cymru ar 101 a dyfynnu cyfeirif RC16040417.”

Rhannu |