Mwy o Newyddion
Lansio strategaeth ddiwygiedig ar y Gymraeg - defnyddio eich iaith eich hun yn rhan annatod o ofal
Mae fframwaith diwygiedig i gryfhau'r defnydd o'r Gymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol wedi'i lansio gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus, Mark Drakeford heddiw.
Wrth galon y strategaeth mae'r syniad bod medru defnyddio eich iaith eich hun yn rhan annatod o ofal - nid yn rhywbeth ychwanegol, dewisol.
Bydd disgwyl i bob sefydliad sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru brif ffrydio gwasanaethau cyfrwng Cymraeg fel rhan integredig o'r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau.
Roedd y fframwaith strategol gwreiddiol, Mwy na Geiriau… yn ceisio cryfhau gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol. Arweiniodd hyn at nifer o fentrau i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn derbyn gwasanaethau yn eu mamiaith mewn unrhyw leoliad gofal.
Mae'r cynllun sydd wedi'i ddiweddaru yn adeiladu ar y fframwaith gwreiddiol ac yn adlewyrchu newidiadau mewn deddfwriaeth, gan gynnwys cyflwyno Safonau newydd y Gymraeg.
Mae'r fframwaith olynol yn parhau i bwysleisio bod rhaid i staff y GIG a gofal cymdeithasol gynnig gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i gleifion yn hytrach na disgwyl iddyn nhw orfod gofyn - Y Cynnig Rhagweithiol.
Mae Mwy na geiriau… wedi llwyddo i gyflawni'r canlynol:
- Gwell ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o bwysigrwydd darparu gwasanaethau iechyd a gofal yn Gymraeg;
- Datblygu nifer o fentrau sydd wedi dangos bod modd sicrhau y gall siaradwyr Cymraeg gael gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yn eu mamiaith drwy wneud y defnydd gorau o adnoddau sydd eisoes yn bodoli;
- Dechrau cynllunio ar gyfer darparu gwasanaethau dwyieithog.
Bydd y strategaeth ddiwygiedig yn gwneud y canlynol:
- Adeiladu ar egwyddor y Cynnig Rhagweithiol - darparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano;
- Gwneud y defnydd gorau o sgiliau Cymraeg gweithlu'r GIG a gofal cymdeithasol, a buddsoddi yng ngweithlu dwyieithog y dyfodol;
- Sicrhau bod arweiniad yn cael ei ddangos ar draws pob lefel o bob sefydliad er mwyn sefydlu diwylliant cefnogol sy'n gofalu bod gwasanaethau yn hygyrch i siaradwyr Cymraeg.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford: “Llwyddodd Mwy na geiriau i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn derbyn gwasanaethau yn eu mamiaith drwy wneud y defnydd gorau o sgiliau ac adnoddau a oedd eisoes yn bodoli ar draws ein GIG a'n gwasanaethau cymdeithasol.
“Mae'r fframwaith olynol hwn hyn canolbwyntio ar ddarparu gofal sy'n diwallu anghenion yr unigolyn, yn hytrach na gweithdrefnau yn unig. Rydym hefyd wedi cymryd y cyfle i sicrhau bod y fframwaith yn adlewyrchu newidiadau yn y dirwedd wleidyddol a deddfwriaethol ers cyhoeddi'r strategaeth wreiddiol.
“Bydd gweithredu'r siarter ddiwygiedig hon yn gosod sylfaen gref i sefydliadau ddarparu gwasanaethau sy'n cydymffurfio â Safonau newydd y Gymraeg.”