Mwy o Newyddion
Antur Danddaearol ddiweddaraf Cymru yn agor ar gyfer y Pasg
Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, wedi agor atyniad diweddaraf Cymru heddiw, yn barod ar gyfer penwythnos Gŵyl Banc y Pasg.
Mae'r daith danddaearol newydd yng Ngheudyllau Llechwedd yn addo bod yn brofiad unigryw, lle gall ymwelwyr reidio ar y rheilffordd gebl fwyaf serth ym Mhrydain, a phrofi rhai o'r synau eiconig sydd wedi diffinio'r ganrif a hanner diwethaf.
Bydd y cloc yn troi 'nôl 160 o flynyddoedd wrth i ymwelwyr deithio 500 troedfedd o dan y ddaear.
Gyda defnydd o olau clyfar, a technoleg realiti ac animeiddiadau 3D, bydd ymwelwyr yn 'cyfarfod' sylfaenydd a pherchennog mwyngloddiau sef John Whitehead Greaves yn ogystal â rhai o'r dynion a bechgyn a oedd yn treulio hyd at 12 awr y dydd, 6 diwrnod yr wythnos, yn gweithio dan ddaear mewn lled-dywyllwch.
Meddai'r Dirprwy Weinidog: “Mae'r atyniad hwn yn ychwanegiad newydd, cyffrous at yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig yn ystod ein Blwyddyn Antur.
"Y cipolwg hwn ar y gorffennol, i weld sut yr oedd pobl yn byw ac yn gweithio, wrth i stori'r hyn a fu ddod yn fyw trwy ddehongliad o'r radd flaenaf, yw'r antur berffaith, lle gall y teulu cyfan deithio mewn amser.
“Mae ailddatblygu'r ardal hon yn enghraifft ardderchog o adfywio yn cael ei lywio gan dwristiaeth.
"Rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru, yn y gorffennol, wedi cefnogi Ceudyllau Llechwedd, y prosiect Zip World, a datblygiad Antur Stiniog, a bod yr arian hwn wedi helpu gyda'r gwaith o adfywio'r ardal, sydd bellach yn gweld prosiectau newydd fel hwn yn cyrraedd y farchnad heb gymorth y Llywodraeth.”
Mae'r daith newydd yn awr yn edrych ymlaen at groesawu ei hymwelwyr cyntaf dros benwythnos y Pasg.
Dywedodd Michael Bewick, rheolwr gyfarwyddwr Ceudyllau Llechwedd: "Mae hon yn stori am y dewrder, penderfyniad a gwydnwch y dynion a'r bechgyn oedd llafurio yn ddwfn o dan fynyddoedd Eryri yn y 19eg ganrif.
"Fe adeiladodd y diwydiant llechi gymunedau, darparu cyflogaeth a diffinio cenedlaethau o deuluoedd yng Ngogledd Cymru. Ond ni ddaeth eu llwyddiant enfawr heb aberth dynol enfawr.
"Mae stori llechi yn rhan hynod bwysig o dreftadaeth y genedl ac rydym wedi buddsoddi mewn technoleg blaengar er mwyn rhannu’r stori gyda chenhedlaeth newydd o ymwelwyr i Eryri."
Aeth y Dirprwy Weinidog yn ei flaen i ddweud: “Mae penwythnos Gŵyl Banc y Pasg ar y gorwel ac, yn draddodiadol, ystyrir mai hwn yw dechrau tymor y gwyliau yng Nghymru. Dechreuwn y tymor gyda hyder mawr yn y sector hanfodol hwn.
"Flwyddyn ar ôl blwyddyn, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr a'u gwariant, a hynny yn y DU ac mewn marchnadoedd rhyngwladol.
"Yn 2014, cynyddodd nifer yr ymwelwyr i 10 miliwn, sef y nifer mwyaf erioed, a oedd yn newyddion gwych i Gymru.
"Er ein bod yn dal i ddisgwyl am y ffigurau ar gyfer un mis yn 2015, gallwn eisoes weld bod y ffigur gwariant yn uwch na'r hyn a gofnodwyd yn 2014, sef £1.735 biliwn.
"Mae hynny'n destament i waith caled y diwydiant ac yn brawf bod ein strategaeth twristiaeth ar gyfer Cymru yn gweithio.
“Mae Blwyddyn Antur 2016 wedi cael dechrau gwych, a rhestrir Cymru a'i hatyniadau mewn nifer digyffelyb o gyhoeddiadau'r cyfryngau byd-eang - o Rough Guide i Lonely Planet i Forbes - fel y lle y mae'n rhaid ymweld ag ef yn 2016. 'Nawr, rydym yn edrych ymlaen at y Penwythnos Antur o 2-3 Ebrill, ac at lansio ein blwyddyn thematig nesaf - Blwyddyn y Chwedlau yn 2017.
“Mae ymgyrch farchnata ryngwladol newydd Croeso Cymru wedi cael derbyniad da. Mae'r ymgyrch amlsianel o bwys, sydd yn werth £4 miliwn, yn cynnwys hysbysebu ar y teledu ac yn y sinema yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon, yn ogystal â rhaglen gyntaf Croeso Cymru o hysbysebu yn y sinema yn yr Almaen.
"Rydym hefyd wedi gweld bod yr ymgyrch wedi cael cydnabyddiaeth o fewn y diwydiant, wrth iddi ennill dwy wobr arian ac un efydd yng ngwobrau mawreddog y Chartered Institute of Marketing Travel Marketing Awards.
"Roedd ymgyrch Croeso Cymru yn cystadlu yn erbyn enwau brand rhyngwladol mawr iawn, er enghraifft Thomson a P&O Cruises.
“Dymunaf bob llwyddiant i'r diwydiant twristiaeth ar gyfer Pasg prysur a thymor llewyrchus i ddod.”