Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Mawrth 2016

Y mis Chwefror prysuraf a gofnodwyd erioed i adrannau argyfwng Cymru

Mae ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod 2,689 o bobl ar gyfartaledd wedi mynd i adrannau argyfwng Cymru bob dydd ym mis Chwefror 2016 – sef 112 bob awr.

Y ffigurau hyn yw’r uchaf i’w cofnodi ar gyfer mis Chwefror ers dechrau cadw cofnodion yn 2006.

Gwelodd system gofal brys GIG Cymru lefelau eithriadol o alw ym mis Ionawr a Chwefror, ond cafodd dros 2,000 yn fwy o bobl eu hasesu, yna’u derbyn neu eu rhyddhau o’r adran argyfwng o fewn pedair awr ym mis Chwefror 2016 o gymharu â mis Chwefror 2015.

Dywedodd Dr Andrew Goodall, prif weithredwr GIG Cymru: “Ym mis Chwefror, gwelodd ein hadrannau argyfwng 2,689 o bobl y dydd ar gyfartaledd.

"Mae hynny’n 112 o gleifion yr awr a bron i ddau berson bob munud – dyma’r nifer uchaf ar gyfer mis Chwefror ers dechrau cadw cofnodion 10 mlynedd yn ôl yn 2006.

“Mae’r byrddau iechyd wedi gosod cynlluniau cadarn gyda chymorth £45m ychwanegol o fuddsoddiad newydd i reoli’r pwysau yn y gaeaf.

“Fodd bynnag, mae achosion o’r ffliw a chynnydd yn nifer yr achosion o’r norofeirws sy’n achosi cyfogi yn y gaeaf wedi rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau.

"Hefyd gwelwyd cynnydd yn nifer y bobl dros 85 sydd angen gofal meddygol – yn aml mae ganddynt gyflyrau meddygol cymhleth ac mae angen iddynt fod yn yr ysbyty am gyfnod hirach.”

Mae nifer y bobl sy’n ceisio gofal brys wedi codi’n sylweddol ers y Nadolig wedi i’r pwysau a welir fel rheol yn y gaeaf gyrraedd yn hwyrach na’r blynyddoedd blaenorol.

Ar rai diwrnodau, gwelwyd cynnydd o 25% yn nifer y bobl ychwanegol sy’n cyrraedd ysbytai i ofyn am driniaeth feddygol frys – mae nifer y bobl 85 ac hŷn sydd angen triniaeth frys yn yr ysbyty wedi cynyddu 8% eleni.

Ychwanegodd Dr Goodall: “Arwydd o ymrwymiad ac ymroddiad pawb sy’n gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd yw bod y ffigurau diweddaraf yn dangos bod yr amser sy’n cael ei dreulio yn yr adran argyfwng ar gyfartaledd yn ddwy awr a 10 munud, o gyrraedd yr adran i gael eu derbyn i’r ysbyty neu eu rhyddhau – mae hyn yn cynnwys asesiad, unrhyw brofion diagnostig, megis peledr-x a thriniaeth.

“Rwy’n poeni am nifer y bobl sy’n treulio dros 12 awr mewn adrannau brys cyn cael eu derbyn neu eu rhyddhau ac rwyf wedi mynegi fy nisgwyliadau yn glir.

“Rydyn ni wedi gosod sawl cam ar waith ar draws yr holl system yn ystod yr wythnos ddiwethaf mewn ymgais i sicrhau gwelliannau ar unwaith, ac fe fyddwn yn cadw llygad fanwl ar y sefyllfa.”

Llun:  Dr Andrew Goodall

 
 

Rhannu |