Mwy o Newyddion
Ni fydd rhaid i gleifion groesi'r ffin am driniaeth arbennig dan gynlluniau Plaid Cymru
Mae cynlluniau uchelgeisiol i ddychwelyd gwasanaethau NHS arbenngiol o Loegr wedi eu datgelu gan Blaid Cymru heddiw.
Ar hyn o bryd mae rhai gwasanaethau newydd-anedig arbenigol ar gyfer cleifion Cymreig yn y gogledd yn cael eu darparu o Arrowe Park yng Nghilgwri a pheth gofal canser yn cael ei ddarparu o Lerpwl.
Amcanion eraill Plaid Cymru yw i sefydlu canolfan breswyl ar gyfer anhwylderau bwyta a chlinig hunaniaeth rhyw yng Nghymru ar gyfer pobl traws-ryw - cyfleusterau sydd ar hyn o bryd ond ar gael yn Lloegr.
Dywedodd Elin Jones AC, Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru: "Nid yw hi'n iawn fod miloedd o bobl yng Nghymru yn gorfod dibynu ar wasanaethau a ddarperir yn Lloegr.
"Mae hyn yn ychwanegu'n sylweddol at gostau teithio i gleifion ac hefyd i ymwelwyr sy'n wynebu teithiau hir dros y ffin. Rhaid i ni ddarparu'r gwasanaethau hyn iddynt yn lleol.
"Ar yr un pryd mae rhai gwasanaethau sydd ddim ar gael yng Nghymru yn gofyn am ymweliadau rheolaidd a chostus i gleifion.
"Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gweithio tuag at ddatblygu gwasanaethau arbenigol yng Nghymru fel y gallant eu dychwelyd o Loegr.
"Gyda 20,000 o bobl yng Nghymru yn cael diagnosis canser pob blwyddyn, mae angen dybryd i dorri amseroedd aros a gwella gofal i gleifion.
"Dyna pam y byddai Plaid Cymru'n agor tair canolfan ddiagnosteg i gyflymu'r broses o roi diagnosis i bobl sy'n amau fod canser arnynt.
"Mae ffigyrau hefyd yn dangos fod y nifer o bobl sydd angen gofal ysbyty i drin anhwylderau bwyta wedi cynyddu 75% yng Nghymru rhwng 2002 a 2012.
"Mae fy nghyd-weithwraig Bethan Jenkins AC wedi gwneud gwaith pwysig fel Cadeirydd Grwp Traws-bleidiol y Cynulliad ar Anhwylderau Bwyta, a byddem yn ceisio adeiladu ar y gwaith hwn mewn llywodraeth drwy agor canolfan arbenigol yng Nghymru.
"Mae hi'n gwbl anheg fod pobl sydd eisoes yn profi gofid yn sgil iechyd gwael yn cael eu gorfodi i ddioddef y straen ychwanegol o deithio pellteroedd maith am driniaeth a gofal.
"Os y cawn ein hethol fis Mai, byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gwneud yn iawn am hyn."