Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Mawrth 2016

Angen adolygu cymorth ar ôl mabwysiadu yng Nghymru, yn ôl Pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol

Yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol, dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad o gymorth ar ôl mabwysiadu sydd ar gael yng Nghymru.

Mae'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc wedi bod yn adolygu'r cynnydd a wnaed ers ei ymchwiliad yn 2012 i wasanaethau mabwysiadu.

Clywodd y Pwyllgor gan randdeiliaid a darpar fabwysiadwyr a rhieni sydd wedi mabwysiadu, am brofiadau cadarnhaol ynghylch y gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol newydd.

Clywodd yr Aelodau bod gwelliannau wedi'u gwneud o ran camau 'cynnar' y broses fabwysiadu, fel recriwtio a hyfforddi.

Fodd bynnag, cododd y cyfranwyr bryderon ynghylch y diffyg cynnydd mewn rhai o'r meysydd polisi ac arfer mwy 'heriol'.

Prif bryderon y Pwyllgor yw:

  • Yr amrywiaeth ar draws rhanbarthau Cymru.
  •  Y diffyg parhaus o ran cymorth ar ôl mabwysiadu a'r effaith sylweddol a difrifol iawn y gallai hyn ei chael ar blant a'u teuluoedd.
  • Nad yw'r mwyafrif o blant sy'n cael eu mabwysiadu yn cael gwaith o ansawdd ym maes cofnodi profiadau bywyd wedi'i ddarparu ar eu cyfer.

O ran cymorth ar ôl mabwysiadu, canfu'r Pwyllgor mai ychydig iawn o gynnydd a wnaed, os o gwbl, gan nodi bod awdurdodau lleol yn Lloegr, ers 2013, wedi gallu gwneud cais i Gronfa Cymorth Mabwysiadu er mwyn ariannu gwasanaethau therapi hanfodol i deuluoedd sy'n mabwysiadu.

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod £1.2 miliwn yn cael ei ddarparu i sefydliadau'r trydydd sector (After Adoption, Adoption UK a Chymdeithas Plant Dewi Sant) dros y tair blynedd nesaf i ddarparu cymorth ar ôl mabwysiadu ledled Cymru.

Byddai hyn yn golygu y gall pob mabwysiadwr elwa ar y cymorth sydd ar gael. Fodd bynnag, ni fydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi plant a theuluoedd unigol.

Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: "Mae'r Pwyllgor yn croesawu'r cynnydd a wnaed hyd yma o ran camau cynnar y broses fabwysiadu, gan gynnwys recriwtio a hyfforddi.

"Mae'r ymateb i'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, a gefnogwyd yn ein  hadroddiad yn 2012, yn gadarnhaol, yn enwedig o ran y cyflymder o ran sefydlu seilwaith priodol; ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol a sefydlu systemau i gasglu data ar fabwysiadu.

"Fodd bynnag, rydym yn pryderu mai ychydig o gynnydd, os o gwbl, sydd wedi'i wneud o ran gwella cymorth ar ôl mabwysiadu sydd, yn ein barn ni, yn rhan hanfodol o'r broses.

"Mae'r amrywiaethau rhanbarthol a diffyg gwaith o ansawdd ym maes cofnodi profiadau bywyd wedi'i ddarparu ar gyfer y rhan fwyaf o'r plant a gaiff eu mabwysiadu, yn peri pryder a byddem yn annog pawb sy'n ymwneud â hyn i ymdrechu'n bellach i fynd i'r afael â'r materion hyn a darparu'r math o gymorth tosturiol a chyflawn o ansawdd sydd ei angen ar blant sydd wedi eu mabwysiadu, a'u teuluoedd."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 11 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad amserol o gymorth ar ôl mabwysiadu ac, os oes angen, dylai drosglwyddo cyfrifoldeb dros ac adnoddau ar gyfer asesu anghenion sy'n codi ar ôl mabwysiadu i'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol;
  • Dylai Llywodraeth Cymru / y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol weithio gyda chynrychiolwyr ar lefel ranbarthol ac awdurdod lleol i fwrw ymlaen â manyleb genedlaethol y cytunir arni ar gyfer gwaith cofnodi profiadau bywyd. Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod gan staff y gallu a'r sgiliau i gyflawni'r gwaith hwn; a
  • Dylai'r pwyllgor a fydd yn olynu'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gadw llygad ar gynnydd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol o ran cyflawni'r flaenoriaeth benodol o sicrhau, lle bo'n briodol, bod gwasanaethau'n gyson ac o safon uchel.
Rhannu |