Mwy o Newyddion
Creu cenhedlaeth newydd o geir cyflym TVR eiconig yng Nglyn Ebwy
Heddiw bydd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, yn cyhoeddi y bydd y gwneuthurwr ceir cyflym Prydeinig annibynnol, TVR, yn cynhyrchu model diweddaraf ei frand eiconig o geir perfformiad uchel mewn cyfleuster gweithgynhyrchu newydd yn Ardal Fenter Glyn Ebwy.
TVR yw'r ail wneuthurwr ceir moethus eiconig Prydeinig i wneud mewnfuddsoddiad sylweddol yng Nghymru o fewn pedair wythnos. Fis diwethaf datgelwyd gan Aston Martin y byddai ail ganolfan weithgynhyrchu yn Sain Tathan, Bro Morgannwg.
Bydd y buddsoddiad gan TVR, sy'n cael cymorth gan Lywodraeth Cymru, yn creu 150 o swyddi o safon ym Mlaenau'r Cymoedd.
Bydd Prif Weinidog Cymru yn siarad am y cyhoeddiad mewn anerchiad allweddol i arweinwyr busnes o Gymru ynghylch cryfder economi Cymru, yng nghwmni Les Edgar, Cadeirydd TVR, ym Mae Caerdydd yn ddiweddarach y bore hwn.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru: “Mae hwn yn fuddsoddiad proffil uchel gwych arall i Gymru ac mae'n hwb sylweddol i'n sector modurol.
"Mae TVR yn frand eiconig arall o safon fyd-eang, y mae cariad mawr tuag ato ac y mae pobl ym mhedwar ban byd yn driw iawn iddo o hyd
" Rwyf wrth fy modd y bydd y genhedlaeth nesaf o geir TVR yn dwyn y label 'Gwnaed yng Nghymru' a hynny gyda balchder.
“Daw'r newyddion hwn heddiw chwap wedi'r cyhoeddiad gan Aston Martin, ac mae'n anfon neges glir a chryf mai Cymru yw'r lleoliad a ffefrir ar gyfer gweithgynhyrchu uwch.
"Hefyd mae'n dangos bod ein dull o weithredu er budd busnesau yn sicrhau canlyniadau, yn denu buddsoddiad sylweddol, ac yn creu swyddi o safon, yn ogystal â bod yn hwb anferth arall i Gymru, i'n sector modurol, ac i'n gweithlu medrus."
Cafodd ei ddisgrifio gan Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, fel buddsoddiad nodedig arall i'r sector modurol yng Nghymru.
Dywedodd y Gweinidog: “Mae denu brand modurol eiconig arall i Gymru yn newyddion gwych i Gymru, i Ardal Fenter Glyn Ebwy, ac i'n sector modurol.
"Mae gennym sector cydrannau modurol ffyniannus eisoes yng Nghymru, a bellach bydd gennym ddau gyfleuster cynhyrchu ceir.
"Mae'r buddsoddiad hwn yn siarad cyfrolau am y sgiliau lefel uchel sydd gennym mewn gweithgynhyrchu uwch, ac rwy'n hynod falch y bydd y cwmni yn creu nifer sylweddol o swyddi newydd ym Mlaenau Gwent.
“Mae TVR yn ychwanegiad a groesewir yn fawr i'r sector ffyniannus a dynamig yng Nghymru, lle mae mwy na 150 o gwmnïau yn rhan o'r gadwyn gyflenwi ar gyfer moduron, gan gyflogi tua 18,000 o bobl a chreu mwy na £3 biliwn i economi Cymru.”
Dywedodd Les Edgar, Cadeirydd TVR: “Mae hwn yn gyfle gwych i TVR ac i Lywodraeth Cymru. Mae De Cymru yn datblygu i fod yn ganolfan bwysig ar gyfer datblygiadau a thechnoleg ym maes moduron a chwaraeon moduron, ac rwyf uwchben fy nigon bod TVR yn buddsoddi yma.
“Mae gennym brosiect ceir cyflym sy'n destun cyffro ac sydd wedi cael cymeradwyaeth yn fyd-eang, ac rydym yn falch dros ben bod Llywodraeth Cymru yn dymuno bod yn rhan o gyfnod newydd a chyffrous i TVR.
“Bydd y ffatri yng Nghymru yn brysur yn cyflawni archebion sydd eisoes wedi'u trefnu hyd at ddiwedd 2018, a thrwy ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol, rydym o'r farn y bydd Cymru yn darparu'r amgylchedd cywir i sicrhau bod y prosiect yn llwyddo.”
Mae dros 350 o flaendaliadau wedi cael eu gwneud eisoes ar gyfer car cyflym y prosiect newydd gan TVR, a gyhoeddwyd ddechrau 2015. Bydd gan y car hwn siasi arloesol, effaith-daear, a grëwyd gan Gordon Murray, y dyluniwr Fformiwla Un, a bydd yn cael ei weithgynhyrchu trwy ddefnyddio ei broses gydosod chwyldroadol iStream®.
Cafodd brand TVR ei gaffael yn 2013 gan y consortiwm dan arweiniad Les Edgar ac mae dyluniad y cerbyd newydd cyntaf yn dal yn gyfrinach a'r bwriad yw ei datgelu tua diwedd y flwyddyn.
Bydd y TVR yn gweithredu yn y sector marchnad arbenigol cyfaint isel, gwerth uchel, ac ar ei uchaf cynhyrchir tua 2,000 o geir y flwyddyn erbyn 2022 a chanolbwyntir i ddechrau ar farchnadoedd yn y DU a marchnadoedd dethol yn Ewrop.
Ar hyn o bryd mae TVR yn ystyried nifer o leoliadau posibl yn Ardal Fenter Glyn Ebwy. Bwriedir i'r gwaith cynhyrchu ddechrau yn 2017 a'r cynllun yw rhoi pedwar model newydd ar y farchnad dros y 10 mlynedd nesaf