Mwy o Newyddion
Dathlu cyfraniad 13 o flynyddoedd Alun Ffred Jones fel Aelod Cynulliad Arfon i Gynulliad Cymru
Mewn noson arbennig yng Nghlwb Rygbi Caernarfon, death aelodau a chefnogwyr Plaid Cymru ynghyd i ddathlu cyfraniad 13 o flynyddoedd Alun Ffred Jones fel Aelod Cynulliad Arfon i Gynulliad Cymru. Diolchwyd iddo am ei gefnogaeth barhaus i Wynedd ac i ddiwylliant Cymru.
“Es heibio Ffred ac Alwen ei wraig am y tro cyntaf i'w croesawu nhw atom i Ddyffryn Nantlle pan symudon nhw i fyw yma, a sylweddolais yn o fuan ein bod yn ffodus eu bod wedi ymgartrefu yma. Ymdaflodd y ddau eu hunain i ganol ein gweithgareddau cymunedol,” esbonia O P Huws, Llanllyfni, cyn-gynghorydd yng Ngwynedd, a'r person â holodd Ffred i ystyried sefyll fel gwleidydd yn enw’r Blaid.
“Daeth hi’n amlwg, yn fuan iawn, bod gan Ffred nodweddion arweinydd da wrth iddo gael ei ethol yn gadeirydd llawer o'n pwyllgorau lleol, gan gynnwys y Cyngor Cymuned, Antur Nantlle a changen leol Plaid Cymru.
"Wrth edrych yn ôl, dwi wrth fy modd i mi fentro ei holi i sefyll fel gwleidydd.
"Arwydd o wleidydd da yw bod yr un mor gyfforddus gyda phobl o fewn eich cymuned ag ydych chi gyda gwleidyddion ac uwch swyddogion yn y Cynulliad.
"Dyna un o nodweddion mawr Alun Ffred Jones. Rwy'n falch ei fod wedi llwyddo i gyflawni cymaint dros Blaid Cymru, ei gymuned yn Nyffryn Nantlle a phobl Gwynedd.”
Fe'i ganed ym Mrynaman, Sir Gaerfyrddin, gan dderbyn ei addysg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, cyn dechrau ei yrfa fel athro a symud i fyd y cyfryngau fel cyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu a hynny gyda Ffilmiau'r Nant, yn ddiweddarach.
Mae’n gyd-awdur cyfres gomedi mwyaf llwyddiannus ac eiconig S4C, C'mon Midffild! ac ef hefyd oedd y cyfarwyddwr.
Yn ôl Cadeirydd Grŵp Plaid Cymru Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Etholwyd Alun Ffred yn arweinydd cyntaf Cyngor Gwynedd yn 1996.
"Roedd yn gynghorydd lleol profiadol uchel ei barch ar draws y grwpiau gwleidyddol ac fe’i parchwyd fel arweinydd awdurdodol a chraff.
"Llwyddodd i gyrraedd consensws ar y rhan fwyaf o faterion ac roedd yn barod i wrando yn rhesymol a theg ar ddadleuon wrth ymateb gyda’i hiwmor sych a'i ffraethineb. Mae ei gyfraniad at les a budd pobl Gwynedd wedi bod yn aruthrol.”
Ymysg uchafbwyntiau ei yrfa wleidyddol yn y Cynulliad y mae cyflwyno Deddf yr Iaith Gymraeg, Y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn ogystal â sefydlu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae’n debyg mai cael ei benodi’n Weinidog dros Dreftadaeth yng nghlymblaid Llywodraeth Cymru yw un o’i brif uchafbwyntiau gwleidyddol, yn ogystal â bod yr unigolyn cyntaf i ddefnyddio'r iaith Gymraeg mewn cyfarfod yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel, fel cynrychiolydd y Llywodraeth Brydeinig.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd a'r Cynghorydd Sir a etholwyd i olynu Alun Ffred fel cynrychiolydd dros Ward Penygroes, Dyfed Edwards: "Roedd dilyn yn ôl troed Alun Ffred Jones yn orchwyl mawr.
"Ond roedd yn anrhydedd mawr i mi ac mae wedi bod yn ffrind triw, yn gefnogwr brwd ac mae wedi parhau i gydweithio â mi ar nifer o achosion ac ymgyrchoedd gwahanol, ef fel Aelod Cynulliad a minnau fel Cynghorydd ac Arweinydd Cyngor Gwynedd.
"Fel Grŵp Plaid Cymru Gwynedd, rydym yn dymuno'n dda iddo ar gyfer y dyfodol ac yn diolch yn aruthrol iddo am ei gefnogaeth barhaus yn ystod y 13 mlynedd diwethaf."
Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru yn Arfon sy’n gobeithio dilyn yn ôl troed Alun Ffred Jones yn y Cynulliad Cenedlaethol, Siân Gwenllian: "Mae un o hoelion wyth gwleidyddol Plaid Cymru bellach wedi gorffen ei gyfnod yn y Cynulliad Cenedlaethol. Ond er y bydd Alun Ffred Jones yn ymddeol, bydd ei ddylanwad yn parhau am flynyddoedd i ddod.
"Mae wedi gweithio'n ddiflino, nid yn unig ar ran ei etholwyr, ond yr un mor bwysig, dros ei wlad.
"Mae nid yn unig yn ymladd dros bobl ei ardal ond hefyd ar faterion ac egwyddorion sy'n ganolog i Gymru yn ystod cyfnod allweddol yn ei hanes. Mae wedi bod yn fraint cydweithio ag ef a’m huchelgais fydd ddilyn ôl ei droed.”