Mwy o Newyddion
Radio Cymru yn cyhoeddi datblygiadau newydd
Mae BBC Radio Cymru yn cyhoeddi datblygiadau newydd sy’n dechrau ar Ebrill. Bydd lleisiau cyfarwydd yr orsaf a’r ymroddiad i gerddoriaeth Gymraeg yn parhau i fod yn rhan ganolog o’r gwasanaeth.
Y BOREAU
Bydd John Hardy yn agor drysau Radio Cymru gyda rhaglen newydd am 5.30am gyda cherddoriaeth, golwg ar y papurau, yn ogystal â’r penawdau chwaraeon, tywydd a’r traffig.
Y Post Cyntaf sy’n dilyn am 7 o’r gloch gyda 90 munud o newyddion y dydd yng nghwmni Dylan Jones, Kate Crockett a Gwenllian Grigg.
Aled Hughes fydd yn croesawu Cymru am 8.30am gyda’i raglen newydd sy’n cynnig cymysgedd o gerddoriaeth a sgyrsiau.
Bydd Bore Cothi a’r rhaglenni dyddiol yn dilyn fel arfer.
GYDA’R HWYR
Am 7 o’r gloch bob nos, bydd cyfle i wrandawyr fwynhau’r lleisiau mwyaf cyfarwydd, mewn slotiau newydd.
Recordiau Rhys Mwyn - Rhaglen newydd bob nos Lun gyda phrif leisydd Yr Anhrefn fydd yn dod â’i gasgliad recordiau a chasetiau personol i’r stiwdio. Cyfle i wrando ar rai o glasuron y gorffennol yng nghwmni gwesteion fydd yn hel atgofion am yr 80au a’r 90au.
Sesiwn Georgia Ruth - Slot newydd bob nos Fawrth gyda Georgia Ruth fydd yn cynnwys cerddoriaeth byd a gwerin.
Lisa Gwilym yn cyflwyno – Y gerddoriaeth newydd o Gymru mewn un lle bob nos Fercher. Sesiynau, sgyrsiau a cherddoriaeth fyw o bob math.
Byd Huw Stephens - Y DJ arbennig sy’n ein cyflwyno i’w fyd cerddorol rhyfeddol bob nos Iau.
Penwythnos Geth a Ger – Dechrau’r penwythnos gyda thair awr llawn o gerddoriaeth, bob nos Wener.
SADYRNAU
Tudur Owen - Slot newydd, fore Sadwrn am 9 o’r gloch i Tudur a’i griw.
Ifan Evans – yn dilyn Tudur, bydd Ifan yn dod â’i hiwmor i’r tonfeddi fore Sadwrn am 11 o’r gloch.
SULIAU
Mae dwy o raglenni poblogaidd y penwythnos - Richard Rees a Cofio - yn dathlu deng mlynedd. Bydd y ddwy yn symud i ddydd Sul, ac yn rhan o Suliau hamddenol ar Radio Cymru.
Richard Rees – Cerddoriaeth y 60au, 70au a’r 80au gyda Richard, fore Sul am 10 o’r gloch.
Yr Oedfa - Y Gwasanaeth ar y Sul yn dechrau yn gynt am 11.30am.
Beti a’i Phobol – Beti George sy’n holi rhai o gymeriadau Cymru am hanner dydd.
Cofio – John Hardy sy’n procio’r cof a’r meddyliau mewn slot newydd ddydd Sul am 1 o’r gloch.
Hywel Gwynfryn – Cyfle i dreulio’r prynhawn yng nghwmni Hywel Gwynfryn am 2 o’r gloch gyda chymysgedd o gyfarchion, hysbys a cherddoriaeth.
Wrth drafod y datblygiadau, dywed Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru: “Mae’r newidiadau hyn yn rhoi cyfle i’n gwrandawyr fwynhau mwy o’r hyn maent yn ei hoffi ac yn ei werthfawrogi ar Radio Cymru.
“Mae hi wedi bod yn nod gen i ers y dechrau i gael rhaglen fyw i agor drysau’r orsaf i’r gwrandawyr
"Fe fydd rhaglen John yn rhoi cyfle i ni, mewn blwyddyn brysur eithriadol yn wleidyddol ac o ran chwaraeon, i ddod â'r Post Cyntaf ar yr awyr am 7 o’r gloch.
"Yna am 7am y bydd Dylan, Kate a Gwenllian Grigg yn darparu’r cynnwys newyddiadurol gorau.
"Gyda Dylan yn canolbwyntio ar y straeon mawr sydd i ddod eleni, Aled Hughes fydd yn gyrru’r awr a hanner o gerddoriaeth a sgyrsiau tan 10am. Mae'n edrych ymlaen i gael y cyfle i roi'i stamp ei hun ar ddarlledu'r bore.
“Ar nos Lun, mae’n wych gallu croesawu Rhys Mwyn i’n plith. Ry'n ni i gyd yn gwybod be gewn ni gan Rhys – cerddoriaeth ddiddorol, barn gref a digon i gnoi cil arno. Fydd ei raglenni yn bownd o greu sŵn!”
Llun: Lisa Gwilym