Mwy o Newyddion
Rheolau newydd i sicrhau bod siopau tecawê yn tynnu sylw at sgoriau hylendid bwyd ar eu taflenni
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn ofynnol i fusnesau tecawê dynnu sylw at eu sgoriau hylendid bwyd ar daflennu sy’n galluogi pobl i archebu dros y ffôn neu ar-lein pan ddaw rheolau newydd i rym ym mis Tachwedd 2016.
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i greu cynllun sgorio hylendid bwyd pan ddaeth yn orfodol ym mis Tachwedd 2013, dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013, i bob busnes bwyd – fel bwytai, tafarndai, caffis, siopau tecawê, gwestai ac archfarchnadoedd – arddangos eu sgoriau yn gyhoeddus ar eu safleoedd.
O 28 Tachwedd 2016 ymlaen - tair blynedd ar ôl i’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd statudol ddod i rym yng Nghymru - bydd gofyn i bob busnes tecawê gyhoeddi datganiad dwyieithog ar gopïau caled o ddeunyddiau cyhoeddusrwydd penodol i gyfeirio cwsmeriaid at y wefan sgoriau hylendid bwyd.
Os bydd taflen neu fwydlen tecawê yn dangos y bwyd sydd ar werth a’r pris, ac yn cynnig ffordd o archebu’r bwyd heb ymweld â’r safle ei hun, bydd yn rhaid iddo hefyd gynnwys datganiad yn atgoffa cwsmeriaid bod modd iddynt weld sgôr y busnes cyn archebu drwy fynd i’r wefan sgoriau hylendid bwyd.
Bydd y datganiad hefyd yn atgoffa cwsmeriaid bod ganddynt hawl i ofyn i’r busnes am eu sgôr wrth archebu.
Mae rheoliadau a basiwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yr wythnos hon yn annog cwmnïau i arddangos sgoriau hylendid bwyd dilys yn wirfoddol ar ddeunyddiau cyhoeddusrwydd. Fodd bynnag, rhaid i unrhyw sgôr sy’n cael ei arddangos fod yn un dilys, ac ar ffurf benodol er mwyn iddo gael ei weld yn glir.
Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod dros 60% o fusnesau bwyd Cymru wedi cael y sgôr uchaf (da iawn) – sef pump. Mae hyn o gymharu â 33.2% ym mis Mawrth 2012.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething: “Roedd cyflwyno cynllun sgorio hylendid bwyd statudol yn llwyddiant mawr yng Nghymru, ac yn helpu i godi safonau hylendid bwyd mewn bwytai, tafarndai, caffis a busnesau bwyd eraill ar draws y wlad.
“Mae’r cynllun wedi rhoi gwybodaeth bwysig i bobl wrth iddyn nhw benderfynu ble i fwyta neu brynu bwyd. Mae hyn yn ei dro wedi chwarae rhan bwysig wrth annog busnesau i wella’u safonau hylendid bwyd.
“Bydd y mesurau newydd hyn yn gwella’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd statudol yng Nghymru drwy lenwi bwlch – dydy’r bobl sy’n archebu bwyd dros y ffôn ddim yn cael cyfle i weld sgôr hylendid bwyd y busnes cyn archebu. Drwy arddangos y datganiad ar daflenni bydd cwsmeriaid yn cael eu hannog i edrych ar y sgôr ar-lein ac i ofyn i’r busnes am eu sgôr dros y ffôn cyn archebu.
“Hoffwn ddiolch i’r awdurdodau lleol yng Nghymru am eu holl waith caled i sicrhau llwyddiant y cynllun hwn.”