Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Mawrth 2016

Llyfrgell Porthmadog yn agor yn swyddogol yn ei gartref newydd

Mae Llyfrgell Porthmadog ar ei newydd wedd sydd bellach wedi ei leoli yng Nghanolfan Glaslyn wedi agor yn swyddogol i’r cyhoedd.

Yn dilyn gwaith uwchraddio sylweddol a ariannwyd gyda chyllid Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd, mae Canolfan Glaslyn ym Mhorthmadog bellach yn gartref i’r ganolfan hamdden a’r llyfrgell.

Mae’r llyfrgell newydd yn cynnwys mwy o gyfrifiaduron llechen ar gael i ddefnyddwyr llyfrgell, adran blant fwy a mwy deniadol, ystafell i gynnal cynadleddau fideo ac mae’r adeilad yn fwy addas i bobl anabl a bydd mwy o le parcio.

Bydd dod a’r gwasanaethau ynghyd yn golygu y gall staff gynnig gwasanaeth well i’r cwsmeriaid, a disgwylir i’r adleoliad arwain at arbediad blynyddol o oddeutu £18,000 i’r Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am y Gwasanaethau Llyfrgelloedd: “Rwy’n falch iawn gweld cartref newydd Llyfrgell Porthmadog yn agor yn swyddogol.

"Rwy’n hyderus y bydd ein gwaith i ad-leoli’r cyfleuster yn cryfhau sefyllfa llyfrgell Porthmadog gyda chynnydd yn y defnydd o’r cyfleusterau hamdden a’r llyfrgell.

"Mae’n golygu hefyd ei fod ar agor am oriau hirach nac yn yr hen adeilad, ac mae bellach ar agor yn ystod amser cinio.

“Wrth i ni nodi agoriad swyddogol y llyfrgell, mae’n bwysig ein bod ni’n talu teyrnged i’r Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates am ei gefnogaeth i gais y Cyngor i sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect cymunedol pwysig hwn.

"Rwy’n gobeithio y bydd pobl leol yn gwneud y mwyaf o’r cyfleuster cyffrous hwn sy’n cyfuno amrediad o adnoddau oddi tan yr un to ac yn darparu cyfleusterau gwell ar gyfer defnyddwyr llyfrgell yr ardal.”

Meddai’r Cynghorydd Mair Rowlands, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Hamdden: “Wrth leoli’r llyfrgell a’r ganolfan hamdden o dan yr un to, rydym yn anelu i sicrhau ein bod yn parhau i gynnig cyfleusterau o ansawdd uchel i bobl Porthmadog a’r ardaloedd o’i chwmpas, beth bynnag maent yn chwilio amdano – o lyfrau i ffilmiau, mynediad at gyfrifiaduron a wi-fi cyhoeddus, ffynonellau gwybodaeth a gweithgareddau ar gyfer y plant yn ogystal a’r amrediad eang o gyfleusterau hamdden ar y safle.”

Rhannu |