Mwy o Newyddion
System genedlaethol newydd i fonitro achosion o haint yn ysbytai Cymru
Bydd system TG newydd a fydd yn cael ei chyflwyno ar draws Cymru yn galluogi GIG Cymru i atal, olrhain a rheoli achosion o haint sy’n gysylltiedig â gofal iechyd mewn ysbytai wrth iddyn nhw ddigwydd, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething heddiw.
Mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £1.9m o’r Gronfa Effeithlonrwydd Drwy Dechnoleg mewn system newydd o’r enw ICNet, a fydd yn galluogi byrddau iechyd i reoli achosion a’u goruchwylio.
Fel rhan o’r system newydd, bydd staff y GIG yn cael eu hysbysu ar unwaith os bydd achos o haint sy’n gysylltiedig â gofal iechyd yn codi. Bydd hyn yn sicrhau bod mesurau ymateb yn cael ei rhoi ar waith cyn gynted â phosib, gan leihau’r risg i’r haint ledaenu i’r cleifion eraill neu staff yn yr ysbyty neu’r lleoliad cymunedol, a gwella’r canlyniadau i’r cleifion.
Os bydd achos o’r fath yn codi, bydd ICNet hefyd yn helpu staff i wneud y defnydd gorau o’u hamser – bydd llai o amser yn cael ei dreulio yn chwilio drwy gofnodion ac yn adolygu achosion hanesyddol, a mwy o amser yn cael ei roi i ofalu am gleifion.
Gall ICNet ryngweithio a chysylltu â systemau TG cenedlaethol eraill, gan gynnwys cronfeydd data llawdriniaethau, systemau adroddiadau labordai a systemau gweinyddol yn ymwneud â chleifion. Bydd yn darparu rhwydwaith ddigidol dros Gymru gyfan, gan ganiatáu i staff olrhain gofal cleifion sydd ag achosion wedi’u cadarnhau o haint sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, megis MRSA, os oes angen iddynt gael eu trosglwyddo i ysbyty arall i barhau â’u triniaeth.
Bydd y rhwydwaith hefyd yn creu darlun cenedlaethol o gyfraddau rheoli haint ar draws Cymru – a bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru a’r byrddau iechyd yn elwa o rannu data cywir a thryloyw.
Disgwylir i’r system newydd fod yn ei lle erbyn canol 2017.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething: “Mae heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd yn niweidiol i gleifion ac yn faich costus i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
“Bydd y system ICNet newydd yn caniatáu i’r Gwasanaeth Iechyd olrhain, atal a rheoli heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd wrth iddyn nhw ddigwydd.
“Bydd hyn yn helpu i wella diogelwch y cleifion drwy leihau nifer yr achosion o haint y mae modd eu hosgoi yn ein hysbytai.”
Dywedodd Tracey Cooper, cyfarwyddwr cynorthwyol nyrsio â chyfrifoldeb dros atal haint ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Cyflwynwyd ICNet ar draws y gogledd llynedd fel rhan o’n rhaglen fewnol ni ein hunain i leihau nifer yr achosion o haint yr oedd modd eu hosgoi. Mae wedi’n helpu ni cryn dipyn, ac rydyn ni’n parhau i leihau nifer yr achosion o haint Clostridium difficile ac MRSA bacteraemia drwy’r rhaglen waith hon.
“Rydyn ni’n falch iawn o weld yr holl waith rydyn ni wedi’i wneud wrth ddatblygu’r system bellach yn cael ei rannu ar draws Cymru gyfan.”
Dywedodd Dr Marion Lyons, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydyn ni’n falch o gefnogi’r gwaith o gyflwyno ICNet ar draws Cymru. Bydd y system newydd hon yn arwain at well gofal a rheolaeth o gleifion sydd â heintiau sy’n gysylltiedig â gofal. Bydd hefyd yn ein helpu i atal a rheoli achosion o’r mathau hyn o heintiau.
“Bydd y system hefyd yn helpu Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael darlun cenedlaethol o gyfraddau heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd ar draws Cymru gyfan, ac yn ein helpu wrth i ni weithio gyda’n partneriaid ar draws y Gwasanaeth Iechyd i sicrhau bod pobl yn ddiogel, yn derbyn gofal priodol o ansawdd da, ac yn cael y profiad mwyaf cadarnhaol posibl o ofal iechyd yng Nghymru.”
Llun: Vaughan Gething