Mwy o Newyddion
Llywodraeth Plaid Cymru am daflu goleuni ar gyflwr yr economi Gymreig
Mae Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Rhun ap Iorwerth, wedi amlinellu heddiw sut y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn taflu goleuni ar gyflwr yr economi Gymreig drwy wella ansawdd a chyfanswm y wybodaeth sydd ar gael.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth y byddai hyn yn cynnwys llunio adroddiad blynyddol ar yr economi Gymreig, cydweithio gyda'r Swyddfa Genedlaethol Ystadegau er mwyn sicrhau amrediad ehangach o ffigyrau sy'n benodol i Gymru, a datblygu cofrestr o'r galw am nwyddau a gwasanaethau sylfaenol.
Ychwanegodd y byddai hyn yn cynyddu tryloywder o ran yr economi ac yn rhoi mwy o eglurder i lywodraeth nesaf Cymru yn nhermau pa fesurau sy'n angenrheidiol i roi hwb i gynhyrchiant a thwf.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi: "Tasg ganolog i Lywodraeth newydd Plaid Cymru fydd adnewyddu'n heconomi. Cam cyntaf hanfodol fydd gwella ansawdd a chyfanswm ein gwybodaeth.
"Dan arweinyddiaeth Plaid Cymru, bydd Trysorlys Cymru'n paratoi adroddiad blynyddol am economi Cymru, yn cynnwys tabl mewnbwn-allbwn manwl a set gyflawn o gyfrifon sector-cyhoeddus, tebyg i ddogfen GERS yr Alban.
"Byddai'r model GERS (Government Expenditure and Revenue Scotland) yn cael ei efelychu yng Nghymru, gan ddarparu set o gyfrifon sector cyhoeddus drwy ddadansoddiad manwl o ystadegau cyllid llywodraethau Cymru a'r DU.
"Byddem hefyd yn cydweithio gyda'r ONS er mwyn sicrhau bod ystod ehangach o ystadegau ar gael ynghylch perfformiad economi Cymru, yn cynnwys ffigurau GVA chwarterol diweddaredig, set gyflawn o gyfrifon cenedlaethol, yn cynnwys data mewnforio ac allforio nwyddau a gwasanaethau o fewn y DG a'r tu allan iddi.
"Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn comisiynu prifysgolion Cymru i ddatblygu model macro-economaidd manwl o economi Cymru er mwyn sicrhau gwell dealltwriaeth o'r hyn sy'n cadw'r economi'n symud.
"Yn olaf, byddem yn datblygu cofrestr fanwl o'r galw am nwyddau a gwasanaethau sylfaenol (bwyd, ynni a chyfleustodau eraill, cartrefi, mewnbynnau i wasanaethau cyhoeddus allweddol megis iechyd ac addysg) er mwyn dod o hyd i gyfleoedd posib i gwmniau lleol a gwella gwytnwch ein heconomi.
"Mae'n bryd codi'r llen o anwybodaeth sydd ar hyn o bryd yn atal polisiau economaidd rhag cael eu teilwra i fodloni anghenion a gofynion yr economi Gymreig.
"Gyda'n cynlluniau uchelgeisiol i gynyddu eglurder a thryloywder, dyna'n union fyddai llywodraeth Plaid Cymru yn ei wneud."