Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Mawrth 2016

Eisteddfod Dysgwyr Gogledd Orllewin Cymru

Cynhaliwyd Eisteddfod Dysgwyr Gogledd Orllewin Cymru yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon yr wythnos ddiwethaf.

Daeth dros 150 o ddysgwyr o Ddwyfor, Arfon, Môn ac ardal Bangor i fwynhau’r cystadlu.

Trefnwyd y noson gan Gymraeg i Oedolion Gogledd Cymru er mwyn cefnogi dysgwyr y Gymraeg ar gyrsiau Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai.

Dywedodd cyfarwyddwr Cymraeg i oedolion Gogledd Cymru, Ifor Gruffydd: “Mae’n bwysig ein bod yn gwneud mwy na dysgu’r Iaith Gymraeg.

"Mae’n rhaid i ni helpu’r dysgwyr i fyw drwy gyfrwng yr iaith hefyd.

"Dyna pam fod trefnu digwyddiadau fel yr Eisteddfodau hyn yn holl bwysig fel rhan o’n gwaith ni.”

Mi wnaeth dysgwyr o bob oedran lefaru a chanu ar y noson. O’r difri i’r digri efo Alexandra Wilson yn llefaru’n hyderus, i Jill Whitehead yn codi’r canu efo Sosban Fach.

Bu’n noson arbennig o lwyddiannus i ddysgwraig o Benisarwaen, Lauren Oliver.

Cafodd Lauren gyntaf am ganu’n unigol, a hefyd gwobr gelf arbennig am y gwaith celf gorau ar y noson.

Yr artist lleol, Luned Rhys Parri oedd yn beirniadu’r gwaith celf ac roedd wedi ei synnu gan safon y gwaith ddaeth mewn.

Derbyniodd Lauren wobr o £50 i’w gwario yn Pontio.

Dywedodd Elen ap Robert cyfarwyddwr artistig ‘Pontio’: “Rydym yn dymuno’r gorau i bawb sy’n mynd ati i ddysgu’r Gymraeg ac yn gobeithio y bydd yr enillydd yn mwynhau dod i weld perfformiad yn Pontio.”

Am yr ail flwyddyn yn olynnol fe enillodd Alan Nason, Pencarnisiog Ynys Mon, gystadleuaeth y gadair gyda cherdd ar y thema ‘Ffin’.

Dywedodd y beirniad Aled Lewis Evans fod y gerdd yn gynnil, sensitif a thrawiadol.

Bydd Cymraeg I Oedolion Gogledd Cymru yn talu ffioedd enillwyr y gwaith ysgrifennu a’I gyrru ymlaen i gystadlu yng nghystadlaethau’r dysgwyr yn yr Eisteddfod genedlaethol lawr yn Sir Fynwy yr haf yma.

Bydd Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru yn cynnal eisteddfod Dysgwyr y Gogledd Ddwyrain nos fory yn Theatr Clwyd.  

Llun:  Lauren Oliver

Rhannu |