Mwy o Newyddion
£1.5 miliwn ar gyfer canolfan cymorth canser newydd i’r De-ddwyrain
Cafodd ei gyhoeddi heddiw bod Llywodraeth Cymru yn rhoi £1.5 miliwn i helpu i ddatblygu canolfan newydd i ddarparu gofal a chymorth i gleifion sy’n dioddef o ganser a’u teuluoedd yn y De-ddwyrain.
Bydd Canolfan Maggie’s newydd yn cael ei hadeiladu wrth safle’r Ganolfan Ganser newydd sydd ar fin cael ei hadeiladu yn Felindre. Bydd Canolfan Maggie’s yn darparu cymorth ymarferol, emosiynol a chymdeithasol rhad ac am ddim i bobl sydd â chanser, eu teuluoedd a’u ffrindiau.
Mae Canolfannau Maggie’s yn annibynnol ond maent yn gweithio gyda’r gwasanaeth iechyd ac maent wedi’u lleoli ar dir ysbytai fel bod modd i gymaint â phosibl o bobl sy’n cael eu heffeithio gan ganser gael elwa ar y gwasanaeth y maen nhw’n ei gynnig.
Cafodd y Ganolfan Maggie’s gyntaf yng Nghymru ei hagor yn 2011 ar dir Ysbyty Singleton, yn Abertawe, a chafodd £1.5 miliwn o arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru. Mae’r nifer sy’n ymweld â Chanolfan Maggie’s yn Singleton wedi cynyddu o 3,000 i fwy na 12,000 y flwyddyn.
Cafodd y cyllid o £1.5 miliwn ar gyfer Canolfan Maggie’s yng Nghaerdydd ei gymeradwyo gan Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ar yr amod bod yr achos busnes ar gyfer y Ganolfan Ganser newydd yn Felindre hefyd yn cael ei gymeradwyo.
Mae Maggie’s yn bwriadu codi £4.5 miliwn i adeiladu’r Ganolfan. Bydd gweddill yr arian sydd ei angen yn cael ei godi drwy roddion; mae Maggie’s wedi codi £1.5 miliwn hyd yma.
Dywedodd yr Athro Drakeford: “Pan fo rhywun yn cael gwybod bod canser arnyn nhw, mae eu bywydau yn newid am byth. Mae Canolfannau Maggie’s yn rhoi gobaith, cymorth ac arweiniad i bobl sydd wedi cael diagnosis o ganser a’u teuluoedd. Dw i wrth fy modd o gyhoeddi cyfraniad o £1.5 miliwn tuag at Ganolfan Maggie’s newydd yn Felindre, a fydd yn cefnogi pobl ar draws y De-ddwyrain.
"Cafodd tua 8,000 o bobl yn y De-ddwyrain ddiagnosis o ganser yn 2014 a bydd y ganolfan hon yn lle gwerthfawr a fydd yn rhoi cysur a chymorth i’r rheini sy’n cael eu heffeithio gan yr afiechyd."
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt: “Rydym yn falch iawn i gyhoeddi cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y ganolfan newydd yma, fydd yn helpu llawer o bobol. Cafodd tua 8,000 o bobl yn y De-ddwyrain ddiagnosis o ganser yn 2014 a bydd y ganolfan hon yn lle gwerthfawr a fydd yn rhoi cysur a chymorth i’r rheini sy’n cael eu heffeithio gan yr afiechyd."
Dywedodd Laura Lee, Prif Weithredwr Maggie’s: “Hoffwn i ddiolch i Lywodraeth Cymru ar ran Maggie’s a phob un a fydd yn defnyddio’r Ganolfan.
“Rydyn ni wir wrth ein boddau ein bod ni’n gallu dod â’n rhaglen o gymorth ymarferol, emosiynol a chymdeithasol sy’n rhad ac am ddim i bobl â chanser a’u teuluoedd a’u ffrindiau yn Ne-ddwyrain Cymru. Bydd y Ganolfan yn lle cynnes a chroesawgar i unrhyw un sydd am alw heibio, a bydd pobl broffesiynol wth law bob amser i gynnig cymorth.”
Dywedodd Syr Roger Jones, Cadeirydd Bwrdd De-ddwyrain Cymru Maggie’s: “Rydyn ni wrth ein boddau bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cyfrannu £1.5 miliwn tuag at Maggie’s De-ddwyrain Cymru, a fydd yn cael cartref y drws nesaf i’r Ganolfan Ganser newydd yn Felindre, Caerdydd.
“Mae llwyddiant Maggie’s yn Abertawe wedi dangos bod gwir angen Maggie's ar gyfer y nifer cynyddol o bobl â chanser yn y brifddinas a ledled y De-ddwyrain gyfan.”
Llun: Yr Athro Mark Drakeford