Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Mawrth 2016

Hwb gwerth £4.4 miliwn i wasanaethau cyngor am ddim

Mae'r Gweinidog Cymunedau, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi £4.4 miliwn ar gyfer gwasanaethau cyngor rheng flaen sy'n rhoi cymorth hanfodol i bobl sy'n wynebu anawsterau ariannol.

Bydd yr arian grant ar gyfer 2016-17 yn galluogi Cyngor ar Bopeth Cymru, Shelter Cymru, SNAP Cymru, Age Cymru a Tenovus i barhau i gynnig cyngor o safon am ddim er mwyn helpu pobl i ad-dalu dyledion, hawlio'r budd-daliadau lles y mae ganddynt yr hawl i'w cael, dod o hyd i gyflogaeth, goresgyn gwahaniaethu a datrys anghydfodau tai.

Bydd hanner yr arian a gyhoeddwyd heddiw yn mynd tuag at brosiect Cyngor Gwell, Byw'n Well Cyngor ar Bopeth Cymru, lle mae ymarferwyr iechyd yn cyfeirio cleifion at gynghorwyr y Ganolfan Cyngor ar Bopeth am gymorth arbenigol, a thrwy hynny'n gwella eu sefyllfa ariannol a'u lles.

Bydd y buddsoddiad parhaus yn galluogi'r sefydliadau i adeiladu ar y gwaith da y maent eisoes wedi'i wneud gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Ers dechrau'r rhaglen, mae Cyngor Gwell, Byw'n Well wedi helpu dros 72,700 o bobl ac wedi sicrhau dros £66.5 miliwn o incwm budd-daliadau. Hyd yma, mae prosiect Gwasanaethau Cyngor Rheng Flaen wedi helpu dros 67,500 o bobl ac wedi sicrhau gwerth dros £15 miliwn o fudd-daliadau lles.

Mae gwasanaethau cyngor rheng flaen, gan gynnwys cyngor ar ddyledion a budd-daliadau, yn elfen allweddol o waith Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cynhwysiant ariannol. Daw'r cyhoeddiad ariannol heddiw wrth i Lywodraeth Cymru lansio ei Strategaeth Cynhwysiant Ariannol diwygiedig sy'n nodi ei gweledigaeth i bawb yng Nghymru gael y cyngor, y gwasanaethau a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i reoli eu harian yn dda.

Mae'n cynnwys ymrwymiadau i sicrhau bod pobl yn gallu agor cyfrif banc, cael benthyg arian am bris y gallant ei fforddio, cael gafael ar wybodaeth ariannol glir, a dysgu sut i reoli eu harian trwy gydol eu bywydau.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau i gefnogi ysgolion i addysgu plant a phobl ifanc am arian. Mae wedi gofyn i Estyn adolygu pa mor dda y mae addysgu a dysgu addysg ariannol yn mynd rhagddo, a bydd yn gweithio gydag Undebau Credyd i hyrwyddo clybiau cynilo mewn ysgolion.

Meddai'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths: "Pan fydd pobl yn wynebu problemau difrifol, fel afiechyd, dyledion, diweithdra neu broblemau tai, mae cyngor a chymorth o safon yn gallu bod yn anadl einioes wirioneddol.

"Bydd y £4.4m yr wyf wedi ei gyhoeddi heddiw yn galluogi gwasanaethau cyngor am ddim i barhau i roi cymorth gwerthfawr i bobl sy'n agored i niwed ledled Cymru.

"Bydd y buddsoddiad hwn yn ein helpu i gyflawni nodau ein Strategaeth Cynhwysiant Ariannol, sy'n nodi ein gweledigaeth i greu Cymru lle mae pawb yn gallu cael y cyngor a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i reoli eu harian yn dda.

"Mae'r strategaeth newydd yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud yng Nghymru ac yn adlewyrchu'r heriau y mae pobl yn eu hwynebu o ganlyniad i fesurau cyni a diwygio lles Llywodraeth y DU." 
 

Rhannu |