Mwy o Newyddion
Ardal Gwella Busnes yn dod i Aberystwyth
Mae busnesau yn Aberystwyth wedi pleidleisio i gael Ardal Gwella Busnes (AGB) yng nghanol y dref.
Derbyniwyd 97 pleidlais o blaid y cynnig, gyda 84 busnes yn pleidleisio yn erbyn y cynnig. Roedd 45% o’r rheiny a oedd yn medru pleidleisio wedi gwneud, sydd yn uchelach na’r cyfartaledd cenedlaethol o 40%. Nod yr AGB yw gwella’r ardal fel lle i weithio ac i ymweld ag ef.
Mae’r broses yma yn cael ei arwain gan grŵp llywio gwirfoddol o fobl busnes canol tref Aberystwyth o dan yr enw Aberystwyth ar y Blaen sydd wedi cael ei sefydlu ac wedi arwain proses o sefydlu’r AGB.
Bydd y grŵp nawr yn ffurfio cwmni ‘nid er elw’ o bob busnes cymwys yn y dref - y rhai a fydd yn talu’r ardoll - waeth sut y gwnaethant bleidleisio.
Bydd y cwmni AGB yn darparu prosiectau a gwasanaethau sydd wedi eu targedu sy’n newydd, unigryw a ddim yn cael eu darparu gan unrhyw asiantaeth neu sefydliad arall ar hyn o bryd.
Mae Aberystwyth ar y Blaen am ddatblygu rhaglen pum mlynedd o welliannau yng nghanol y dref trwy gasglu ardoll wrth pob busnes cymwys. Bydd potensial i gasglu ychydig dros £700,000 rhwng 2016 ac 2021 i’w fuddsoddi mewn rhaglen gynhwysfawr o welliannau. Gwneir pob ymdrech i ddod o hyd i arian cyfatebol o ffynonellau eraill.
Caiff Aberystwyth ar y Blaen ei ariannu trwy godi ardoll o 1.25% ar werth trethiannol (GT) pob eiddo, neu uned busnes, sydd o fewn ffiniau’r AGB sydd â GT o £6,000 neu fwy. Ni fydd y busnesau sydd â GT is na hynny’n gorfod talu ardoll yr AGB.
Dywed y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Ddatblygu Economaidd a Chymunedol: “Trwy pleidleisio o blaid yr AGB, mae busnesau wedi dangos bod ganddynt yr archwaeth i wneud newidiadau yn lleol sydd o bwysigrwydd iddyn hwy, a gwella canol y dref yr un pryd. Mae hyn yn amser cyffrous i Aberystwyth, a dwi’n ddiolchgar i Aberystwyth ar y Blaen am eu ymdrechion i greu AGB.”
Dywed Tony Bates o Cyfreithwyr Morris & Bates ac sydd hefyd yn aelod o Grŵp Llywio Aberystwyth ar y Blaen: “Mae’r gwaith caled yn dechrau nawr a dwi’n gobeithio y gallwn denu pobl efo gweledigaeth, craffter busnes a cred yn Aberystwyth fel lle delfrydol i weithio a byw. Byddwn hefyd yn hoffi gweld rheiny wnaeth bleidleisio ‘yn erbyn’ yn dod yn rhan o Fwrdd y Cyfarwyddwyr, fel ein bod yn cynnwys sbectrwm deinamig ac eang o syniadau a phersonoliaethau.”
Bydd y rhaglen yn ffocysu ar wella mynediad a chysylltiadau fel parcio a gosod Wi-Fi am ddim. Bydd hefyd yn edrych ar farchnata a hybu a chynnal ymgyrchoedd Cysylltiadau Cyhoeddus a meithrin perthynas gyda’r wasg leol. Bydd yn creu cymuned fusnes gryfach trwy ddatblygu symbyliad i fusnesau a chynlluniau mentora ac atgyfnerthu’r berthynas trwy weithio gyda’r awdurdodau lleol a gweithio gyda’r mentrau cyfredol er mwyn atal troseddau.
Bydd y gwasanaethau hyn yn ychwanegol i’r rhai sy’n cael eu darparu gan Gyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref Aberystwyth.
Mae fersiwn o’r cynnig AGB ar gael ar gwefan www.aberystwythbid.com
Llun: Cynghorydd Gareth Lloyd