Mwy o Newyddion
Gwaith yn dechrau ar Ffordd Gyswllt gwerth £57 miliwn Dwyrain y Bae yng Nghaerdydd
Bydd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn lansio dechrau y gwaith adeiladu ar y Ffordd Gyswllt Dwyrain y Bae yng Nghaerdydd, sy’n werth £57 miliwn, yn ystod ymweliad â’r safle adeiladu heddiw.
Unwaith y bydd wedi’i chwblhau, bydd y ffordd ddeuol newydd yn cynnig llwybr mwy uniongyrchol rhwng dwyrain y ddinas (Roverway) a Bae Caerdydd (A4232 Twnel Butetown), gyda’r fantais ychwanegol o liniaru’r tagfeydd ger Tyndall Street, drwy symud y traffig sy’n defnyddio y llwybr o Ocean Way i’r Cyswllt Canolog drwy Tyndall Street ar hyn o bryd.
Mae’r gwaith paratoi i adeiladu Ffordd Gyswllt Dwyrain y Bae eisoes wedi dechrau a rhagwelir y bydd y ffordd newydd yn cael ei chwblhau erbyn gwanwyn 2017.
Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd y Gweinidog: “Mae gwella’r seilwaith a’r cysylltiadau trafnidiaeth, lleihau amser teithio a chefnogi twf swyddi ledled Cymru wedi bod yn ymrwymiad hirdymor i’r llywodraeth hon, ac mae’r cyhoeddiad hwn o brosiect mawr yn enghraifft arall o sut yr ydym yn cyflawni’r addewidion hynny.
“Yn ogystal â chreu swyddi a chyfleoedd am brentisiaethau yn ystod camau adeiladu’r prosiect, unwaith y bydd ar agor, bydd Ffordd Gyswllt Dwyrain y Bae yn rhoi mwy o gyfleoedd i sicrhau twf economaidd drwy wella mynediad i Barth Menter Canol Caerdydd a gwella cysyllted ar draws y ddinas yn ehangach.
“Bydd cymudwyr sy’n teithio rhwng dwyrain Caerdydd a’r Bae hefyd yn elwa gan y bydd yn cymryd llai o amser i deithio, a bydd yn llwybr byrrach, tra y dylai preswylwyr ardal Tyndall Street weld llai o draffig a llai o darfu yn eu hardal.”
Bydd y ffordd ddeuol newydd, sy’n cael ei hadeiladu gan Fenter ar y Cyd Dawnus Ferrovial Agroman, hefyd yn cynnwys llwybr troed a llwybr beicio ar ei hyd i annog mwy o gerdded a beicio.
Bydd disgwyl i oddeutu 100 o swyddi newydd a 10 o gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau gael eu creu yn ystod camau adeiladu y prosiect.
Bydd y llwybr 1km (0.62milltir) yn lleihau amseroedd teithio o ddwyrain y ddinas i Fae Caerdydd, drwy ail-gyfeirio gyrrwyr o’r llwybr presennol ar hyd Ocean Way i’r Ffordd Gyswllt Ganolog drwy Tyndall Street.