Mwy o Newyddion
Y Torïaid yn israddio Cymru i statws 'llai na dinas' gyda phwerau cyfiawnder i Fanceinion
Mae llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder a Materion Cartref, Liz Saville Roberts AS wedi cyhuddo'r Torïaid yn San Steffan o israddio Cymru i statws 'llai na dinas' drwy roi pwerau cyfiawnder troseddol i Fanceinion tra'n gwrthod eu trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Cadarnhaodd y Canghellor yn ei Gyllideb y bydd Manceinion yn cael mwy o bwerau dros gyfiawnder troseddol ond roedd pwerau o'r fath ar goll o'r Drafft Mesur Cymru diweddar a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU.
Dywedodd Liz Saville Roberts AS Plaid Cymru ei bod hi'n "gwbl annerbyniol" i Lywodraeth y DU gynnig llai o bwerau i sefydliad democrataidd Cymru nag i ddinas yn Lloegr, gan ychwanegu y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn mynnu setliad teg gan San Steffan os caiff ei hethol fis Mai.
Dywedodd Liz Saville Roberts AS Dwyfor Meirionnydd ac aelod o'r Pwyllgor Materion Cymreig sy'n gyfrifol am graffu ar y Drafft Mesur Cymru: "Drwy roi mwy o bwerau cyfiawnder troseddol i Fanceinion tra'n gwrthod eu trosglwyddo i'n Cynulliad Cenedlaethol, mae'r Ceidwadwyr wedi israddio ein cenedl i statws llai na dinas.
"Gyda chorff cynyddol o arbenigwyr ac academyddion cyfreithiol yn cefnogi creu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru, mae'r achos o blaid newid o'r fath yn sylweddol.
"Dim ond yr wythnos hon, ymunodd bargyfreithiwr Ceidwadol blaenllaw â'r corws o leisiau sy'n dadlau fod Cymru'n barod i gael ei system gyfreithiol ei hun.
"Mae'r Mesur Cymru yn gyfle deddfwriaethol delfrydol i sicrhau'r newid hwn, ond eto mae'r ffaith fod y Toriaid yn benderfynol o drin Cymru fel cenedl eilradd yn golygu fod hyn ar goll o'r mesur.
"Mae hi'n gwbl annerbyniol fod sefydliad democrataidd Cymru'n cael cynnig llai o bwerau na dinas yn Lloegr. Rhaid i ni gael cydraddoldeb gyda chenhedloedd eraill y DU, nid yn unig dinasoedd y DU.
"Os y caiff ei hethol fis Mai, bydd llywodraeth Plaid Cymru yn mynnu setliad teg i'n gwlad gan San Steffan, ac yn caniatáu democratiaeth Cymru i aeddfedu gan sicrhau'r Cynulliad mwyaf atebol posib."