Mwy o Newyddion
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Eisteddfod Genedlaethol 2020 yn agoshau
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn i ardaloedd sydd â diddordeb i wahodd yr Eisteddfod Genedlaethol i Geredigion yn 2020 i gysylltu efo’r Cyngor cyn diwedd mis Mawrth.
Mae’r Cyngor wedi cysylltu gyda Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn datgan diddordeb y Sir i wahodd yr Eisteddfod Genedlaethol i Geredigion yn 2020.
Mae gofynion yr Eisteddfod Genedlaethol yn cynnwys addasrwydd yr ardal, cysylltiad a chyflenwad trydan, dŵr a charthffosiaeth, cysylltiad i’r rhwydwaith ffôn symudol a band llydan yn ogystal â 140 erw o dir ar gyfer ardaloedd gwahanol gan gynnwys maes parcio a charafannau a mynediad i’r safleoedd.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn: “Rydym wedi cysylltu â Chynghorau Cymuned a Thref yn amlygu gofynion yr Eisteddfod ar gyfer y Maes.
"Rydym wedi derbyn rhai ceisiadau, ond byddem yn croesawi ac yn gobeithio derbyn rhagor cyn diwedd y mis hwn.”
Mae’r Cyngor am cael gwybod am safleoedd o ddiddordeb yn yr ardal cyn dydd Iau 31 Mawrth. Caiff y safleoedd a glustnodwyd eu hanfon at yr Eisteddfod Genedlaethol lle bydd Bwrdd yr Eisteddfod Genedlaethol yn penderfynu ar safle priodol yng Ngheredigion ar gyfer Eisteddfod 2020.
Yn dilyn eu penderfyniad, bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal ar gyfer trigolion Ceredigion i ethol Swyddogion a Phwyllgor Gwaith a fydd yn gyfrifol am arwain y gwaith o drefnu a chodi arian.