Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Mawrth 2016

Aelodau'r Cynulliad yn cymeradwyo penodiad Comisiynydd Safonau newydd

Syr Roderick Evans CF fydd Comisiynydd Safonau annibynnol newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl i Aelodau'r Cynulliad gymeradwyo ei benodiad ar 16 Mawrth.

Sefydlwyd y swydd annibynnol hon gan y Mesur Comisiynydd Safonau (2009).

Mae'r Mesur:

  • yn sicrhau bod y Comisiynydd yn annibynnol ar y Cynulliad ac felly'n gallu gweithredu'n gwbl wrthrychol wrth ymchwilio i gwynion yn erbyn Aelodau'r Cynulliad;
  • yn rhoi pwerau cryf i'r Comisiynydd, tebyg i bwerau llys barn, i ymchwilio i gwynion yn drylwyr; ac
  • yn gwneud y Comisiynydd yn gyfrifol am hyrwyddo safonau ymddygiad uchel mewn bywyd cyhoeddus ymhlith Aelodau'r Cynulliad.

Mae Syr Roderick yn Farnwr Uchel Lys ymddeoledig ac fe'i dewiswyd o blith nifer o ymgeiswyr cryf i ymgymryd â'r rôl.

Cafodd ei alw i'r Bar yn 1970, gan ymarfer yn Abertawe rhwng 1970 a 1992; cafodd Sidan ym 1989.

Fe'i dyrchafwyd i'r farnwriaeth ym 1992, ac fe'i penodwyd i'r Uchel Lys yn 2001, gan ymddeol yn 2013. Mae hefyd yn Gymrawd Prifysgolion Aberystwyth, Abertawe a Bangor, ac yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ac fe'i croesawyd i Orsedd y Beirdd yn 2002.

Bydd Syr Roderick yn cymryd yr awenau gan Gerard Elias CF pan ddaw ei gontract yntau i ben ar ddiwedd mis Tachwedd eleni; mae wedi bod yn y swydd ers iddi gael ei sefydlu yn 2010.

Wrth siarad yn y Cynulliad fis Tachwedd diwethaf, soniodd yr Arglwydd Thomas, Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, am gyfraniad enfawr Gerard Elias i sefyllfa'r Cynulliad drwy iddo gyflawni'r rôl mewn modd deheuig iawn.

Ychwanegodd y byddai'n anodd olynu Gerard Elias a bod rhaid wrth rywun uchel ei barch ac, yn anad dim, rhywun annibynnol i ymgymryd â'r rôl.

"Mae olynu Gerard Elias CF yn rôl y Comisiynydd Safonau yn fraint fawr a heriol," meddai Syr Roderick.

"Wrth ddatblygu rôl y Comisiynydd, mae Gerard wedi gwneud cyfraniad mawr i ddemocratiaeth ddinesig Cymru, a gobeithio y byddaf yn olynydd teilwng."

Dywedodd Gerard Elias: "Croesawaf yn fawr iawn penodiad Syr Roderick i’m holynu fel Comisiynydd Safonau ym mis Rhagfyr.

"Daw â deubeth hanfodol i'r rôl hon, sef annibyniaeth ac awdurdod, sydd mor bwysig yn ein proses ddemocrataidd."

Yr aelodau canlynol oedd ar y panel dethol, yn unol â'r weithdrefn ffurfiol ar gyfer penodiadau a wneir gan y Cynulliad:

  • John Griffiths AC (Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad) - Cadeirydd y Panel
  • Gerard Elias CF - y Comisiynydd Safonau
  • Eric Gregory - Aelod annibynnol
  • Claire Clancy - Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Fel rhan o'r broses ddethol, daeth Syr Roderick i wrandawiad cadarnhau cyhoeddus yn y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (trawsgrifiad llawn ar gael yma).

Ar ôl y cyfarfod, cefnogodd Aelodau'r Pwyllgor yn unfrydol argymhelliad y panel penodi, gan gyflwyno ei enw gerbron y Cynulliad ar gyfer ei gymeradwyo.

"Yn gyntaf, talaf deyrnged i Gerard Elias, y Comisiynydd cyfredol," meddai John Griffiths AC.

"Mae wedi gwneud gwaith da o ran datblygu'r hyn a oedd yn swydd newydd sbon ar y pryd a'i droi'n esiampl o rôl agored a thryloyw, a chanddi bŵer wrth ddwyn cynrychiolwyr etholedig y bobl i gyfrif. Rydym wrth ein bodd y bydd, wrth iddo sefyll i lawr yn ddiweddarach eleni, yn rhoi'r awenau i rywun cystal â Syr Roderick.

"Cafodd Syr Roderick ei ddewis o blith nifer o ymgeiswyr cryf ac mae ganddo gyfoeth o brofiad barnwrol i'w gynnig na fydd ond yn cadarnhau ymhellach rôl y Comisiynydd Safonau fel rhan ganolig o ddemocratiaeth agored a thryloyw yng Nghymru."

Bydd Syr Roderick yn dechrau yn y swydd ar 1 Rhagfyr.

Rhannu |