Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Mawrth 2016

Y Gyllideb yn dangos yr angen am gomisiwn isadeiledd cenedlaethol i Gymru

Mae Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi ymateb i Gyllideb y Canghellor drwy ddweud fod Cymru angen ei Chomisiwn Isadeiledd Cenedlaethol ei hunan er mwyn rhoi hwb i'r economi Gymreig.

Dywedodd Leanne Wood fod Llywodraeth y DU wedi canolbwyntio buddsoddiad isadeiledd yn ormodol ar Loegr tra'n amddifadu Cymru o gyfran lawn a theg o gyllid o'r gwariant hwn.

Ychwanegodd hi y byddai llywodraeth Plaid Cymru'n sefydlu Comisiwn Isadeiledd Cenedlaethol i Gymru er mwyn sicrhau'r prosiect buddsoddi isadeiledd mwyaf ers datganoli, a herio Llywodraeth y DU i sicrhau fod Cymru'n cael mwy na dim ond briwsion o fwrdd San Steffan.

Wrth ymateb i Gyllideb y DU, dywedodd Leanne Wood: "Tra bod rhai rhannau o'r DU yn derbyn buddsoddiad isadeiledd sylweddol, mae gofyn i Gymru setlo am friwsion o fwrdd San Steffan.

"Mae ar Gymru angen Comisiwn Isadeiledd Cenedlaethol ei hun i greu swyddi a thyfu'r economi - rhywbeth y bydd Plaid Cymru yn ei gyflawni mewn llywodraeth. Drwy fuddsoddi mewn llwybrau trafnidiaeth, ysgolion ac ysbytai ledled y wlad, gallwn sicrhau fod isadeiledd a sefydliadau allweddol Cymru yn addas i'r unfed ganrif ar hugain.

"Tra bod San Steffan yn fodlon cyllido HS2, HS3 a dau brosiect Crossrail yn ogystal â chysylltiadau trafnidiaeth newydd ledled Lloegr, mae Cymru'n colli allan ar filiynau o bunnoedd y dylid eu gwario ar drawsnewid ein rhwydweithiau trafnidiaeth ein hunain.

"Byddai cynyddu gwariant isadeiledd o 1% o GDP yn codi £20 biliwn bob blwyddyn i economi'r DU a £1 biliwn o hynny i Gymru. Mae'r IMF a'r CBI wedi dangos fod buddsoddi mewn isadeiledd yn elwa'r Trysorlys - £3 yn ôl am bob £1 sy'n cael ei gwario.

"Gyda chynifer o bwerau economaidd hollbwysig ar gadw yn San Steffan, rhaid i ni yng Nghymru ddibynnu ar Lundain i dyfu ein heconomi ac mae Cyllideb heddiw'n dangos yn glir pam na all hynny barhau.

"Am lawer rhy hir, mae Llafur wedi gadael i'r Torïaid yn Llundain reoli tranc yr economi Gymreig. Mewn llywodraeth, bydd Plaid Cymru yn galw Uwchgynhadledd Cyllideb frys gyda'r Canghellor o fewn 100 diwrnod cyntaf y cynulliad newydd er mwyn sicrhau setliad ariannol teg i Gymru.

"Gyda chynlluniau uchelgeisiol i adeiladu'r peiriant economaidd a mynnu bargen well gan San Steffan, mae Plaid Cymru'n cynnig y newid sydd ei angen fis Mai."

Rhannu |