Mwy o Newyddion
Amseroedd aros canser allweddol yn gwella yng Nghymru
Mae’r amseroedd aros ar gyfer targed canser allweddol yng Nghymru wedi gwella – y perfformiad gorau ers chwe mis, yn ôl ffigurau newydd a gafodd eu cyhoeddi heddiw.
Mae’r ffigurau ar gyfer mis Ionawr 2016 yn dangos bod 86.5% (492 o 569) o’r unigolion oedd newydd gael diagnosis o ganser wedi dechrau ar eu triniaeth, gan gynnwys pob prawf diagnosteg ac ymgynghoriad ag arbenigwr, o fewn yr amser targed.
Felly, roedd yr unigolion hyn wedi cael dechrau triniaeth o fewn 62 o ddiwrnodau o gael eu hatgyfeirio ar frys gan eu meddygon teulu drwy’r llwybr brys amheuaeth o ganser.
Mae’r ffigur hwn wedi cynyddu o 86.2% ym mis Rhagfyr 2015 a dyma’r perfformiad gorau ers mis Gorffennaf 2015.
Roedd ffigurau tri o saith bwrdd iechyd Cymru yn 90% neu’n uwch ym mis Ionawr:
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: 92.9% - yr ail fis yn olynol iddo gyflawni mwy na 90%
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: 92.6% - y trydydd mis yn olynol iddo gyflawni mwy na 90%
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: 90.9% - ei berfformiad gorau ym mis Ionawr ers 2012.
Cafodd 114 o 139 o bobl eu trin ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg o fewn yr amser targed – dyma’r nifer mwyaf o bobl i gael eu trin o fewn 62 o ddiwrnodau ers mis Mehefin 2015.
Yn y cyfamser, dechreuodd 96% (787 o 820) o unigolion a oedd newydd gael diagnosis o ganser ar driniaeth ddiffiniol wedi iddynt gael diagnosis o fewn 31 o ddiwrnodau (nid drwy’r llwybr brys).
Mae’r gwelliannau yn y perfformiad o ran bodloni’r amser aros canser 62 o ddiwrnodau yn dod wedi i Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd, ofyn i bob un o fyrddau iechyd Cymru gynhyrchu cynlluniau 100 diwrnod i wella gwasanaethau canser ym mis Hydref 2015.
Dywedodd Mr Gething: “Dros y 12 mis diwethaf, dechreuodd mwy na 16,000 o bobl ar eu triniaeth ar gyfer canser yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, a chafodd 14,926 eu trin o fewn yr amser targed.
“Dw i’n falch o weld gwelliant yn nifer y bobl sydd newydd gael diagnosis o ganser sy’n dechrau ar eu triniaeth o fewn y targed o 62 o ddiwrnodau.
“Mae dau o fyrddau iechyd Cymru yn trin mwy na 90% o gleifion o fewn yr amser targed yn gyson. Ond, dw i am i bob bwrdd iechyd gyflawni lefelau uchel o berfformiad yn gyson fel bod pobl â chanser yn gallu cael triniaeth yn brydlon.”
Llun: Vaughan Gething