Mwy o Newyddion
Llywodraeth Plaid Cymru am adeiladu'r peiriant economaidd
Bydd Leanne Wood arweinydd Plaid Cymru yn Llundain heddiw i ddadlau'r achos dros lywodraeth newydd i Gymru a phecyn o gynlluniau fyddai'n "adeiladu'r peiriant economaidd" drwy greu swyddi a rhoi hwb i dwf.
Wrth siarad cyn i'r Gyllideb gael ei chyhoeddi, dywedodd Leanne Wood fod y ffaith nad oedd y Canghellor wedi cyrraedd ei dargedau ar fenthyca, y ddyled a'r diffyg yn dangos fod arbrawf llymder y Ceidwadwyr wedi methu'n llwyr.
Ychwanegodd hi fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi gadael i Cymru ddioddef bron i ddau ddegawd o dranc economaidd ac y byddai cynlluniau Plaid Cymru i dorri trethi busnes, codi lefelau caffael a lansio prosiect isadeiledd cenedlaethol di-gynsail yn gwrthdroi hyn.
Dywedodd Leanne Wood arweinydd Plaid Cymru: "Mae'r economi Gymreig yn wynebu ergyd ddwbwl gan lywodraeth Doriaidd y DU sy'n benderfynol o wneud toriadau pellach i wasanaethau cyhoeddus, a llywodraeth Lafur Cymru sy'n rhy wan i'w hatal.
"Mae ar Gymru angen llywodraeth gyda'r uchelgais, y creadigrwydd a'r syniadau cywir angenrheidiol i greu swyddi, rhoi hwb i dwf a denu buddsoddiad o ledled y byd.
"Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn adeiladu'r peiriant economaidd drwy roi mwy o gontractau cyhoeddus i gwmniau lleol, torri trethi i fusnesau bach, a lansio'r cynllun buddsoddiad isadeiledd cenedlaethol mwyaf ers datganoli.
"Byddwn hefyd yn sefydlu WDA (Asiantaeth Datblygu Cymru) i'r 21ain ganrif i ddenu buddsoddiad ac ail-adeiladu brand rhyngwladol Cymru fel lle deniadol i wneud busnes.
"Mae'r ffaith nad ydi'r Canghellor wedi llwyddo i gyrraedd targedau ar fenthyca, y ddyled a'r diffyg yn dangos fod arbrawf llymder y Ceidwadwyr wedi methu'n llwyr.
"Mae'r boen a brofir gan bobl arferol o ganlyniad i doriadau San Steffan yn dwysau yn sgil amharodrwydd llywodraeth Lafur Cymru i frwydro dros setliad teg i'n gwlad.
"Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn sicrhau fod buddiannau economaidd Cymru ar agenda San Steffan, gan adeiladu economi gref a gwydn sy'n elwa pawb sy'n byw yma."