Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Mawrth 2016

Cyffur newydd i drin Syndrom Morquio i fod ar gael yng Nghymru

BYDD cyffur newydd i drin Syndrom Morquio, clefyd etifeddol anghyffredin sy’n cyfyngu ar fywyd, ar gael drwy GIG Cymru yn dilyn cyhoeddiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford heddiw.

Mae’r Gweinidog wedi cymeradwyo argymhelliad gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru y dylai Vimizim® (elosulfase alfa) fod ar gael yng Nghymru.

Mae Syndrom Morquio yn glefyd etifeddol anghyffredin iawn.

Fel rheol nid yw arwyddion a symptomau’r cyflwr yn amlwg ar enedigaeth, ond maent yn dechrau ymddangos yn ystod blynyddoedd cynnar bywyd plentyn.

Maent yn cynnwys esgyrn siâp rhyfedd, coesau cam, asgwrn cefn crwm a’r frest yn tyfu’n anwastad.

Wrth i blentyn â Syndrom Morquio dyfu’n hŷn, daw symptomau mwy difrifol i’r amlwg  a bydd namau mwy sylweddol yn datblygu.

Gall rhain achosi poen, blinder, llai o allu i weithredu, llai o gryfder a gall effeithio ar ansawdd bywyd.

Disgwylir i bobl â Syndrom Morquio fyw hyd at tua 30 oed.

Cyn cyflwyno Vimizim®  yr unig driniaeth ar gael oedd gofal lliniarol neu gefnogol, nad oedd yn trin achosion sylfaenol y clefyd.

Vimizim® yw’r driniaeth gyntaf sydd â’r potensial i newid cwrs y clefyd.

Amcangyfrifir mai cost trin yr holl gleifion cymwys yng Nghymru yw £880,000 yn y flwyddyn gyntaf.

Dywedodd yr Athro Drakeford: “Rwy’n falch iawn o fedru cadarnhau argymhelliad Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru y dylai Vimizim®, y driniaeth gyntaf sydd â’r potensial i newid cwrs Syndrom Morquio, fod ar gael yng Nghymru.

“Mae arbenigwyr clinigol yn awgrymu bod disgwyl i’r therapi arafu’r cyflwr, lleihau’r angen am lawdriniaeth, a gwella ansawdd bywyd.

“Rwy’n siŵr y bydd pobl sy’n byw gyda Syndrom Morquio a’u teuluoedd yn falch iawn o glywed bod Vimizim® wedi’i gymeradwyo.”

Mae pob meddyginiaeth sydd wedi’i gymeradwyo gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal neu Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru ar gael yn gyffredinol drwy GIG Cymru lle bo angen clinigol wedi’i nodi.

Rhannu |