Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Mawrth 2016

Bargen Ddinesig yn hwb economaidd enfawr i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ôl y Prif Weinidog

Heddiw, dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones bod cytundeb Bargen Ddinesig sy'n werth £1.2 biliwn ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn hwb economaidd enfawr a fydd yn ysgogi twf ledled y rhanbarth.

Mae'r Fargen Ddinesig, sy'n dod â deg awdurdod lleol ynghyd, yn cynnwys dros £500m o gefnogaeth Llywodraeth Cymru tuag at wella seilwaith trafnidiaeth yn y rhanbarth.

Mae disgwyl i'r Fargen greu hyd at 25,000 o swyddi newydd a dod â £4 biliwn yn ychwanegol o fuddsoddiad o'r sector preifat.

Heddiw, ymunodd y Prif Weinidog â deg arweinydd yr awdurdodau lleol sy'n rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb i lofnodi dogfen y Fargen Ddinesig mewn seremoni yng Nghaerdydd.

Wrth groesawu'r Fargen Ddinesig, dywedodd y Prif Weinidog: "Rydyn ni wedi lobïo'n galed i gael Bargen Ddinesig ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac rydyn ni wedi rhoi dros £500m o arian i gefnogi'r gwaith o wella seilwaith trafnidiaeth yn y rhanbarth.

"Rydyn ni'n gwireddu gweledigaeth trwy gyhoeddiad heddiw. Mae'n arwydd o hyder yn y rhanbarth ac yn hwb economaidd enfawr.

"Mae'r cydweithio agos a'r bartneriaeth rhwng y deg awdurdod lleol yn ganolog i lwyddiant Bargen Ddinesig. Mae'n enghraifft wych o'r hyn y mae modd ei gyflawni trwy ddod at ein gilydd er lles ein Prifddinas-Ranbarth.

"Rydyn ni wastad wedi dweud bod Bargen Ddinesig lwyddiannus ar gyfer Caerdydd yn dangos hygrededd Cymru, ac mae'n agor y drws i Fargeinion pellach i Gymru. Rydyn ni'n parhau i bwysleisio'r achos am Fargen i Abertawe ac yn ystyried sut y gallai'r Gogledd elwa ar gynllun o'r fath."

Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt: "Mae hyn yn garreg filltir bwysig ac yn uchafbwynt misoedd o drafodaethau manwl. Wrth weithio'n agos gyda'r awdurdodau sy'n rhan o'r Fargen, rydyn ni wedi llwyddo i sicrhau £435 miliwn yn ychwanegol i gefnogi mentrau a dargedir yn rhanbarth y De-ddwyrain. Mae cyfanswm y buddsoddiad yn sylweddol, gyda'r awdurdodau lleol yn cyfrannu £120 miliwn.

"Mae ein buddsoddiad ychwanegol ni a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydnabod yr achos a gafodd ei gyflwyno gan yr awdurdodau o ran sut y mae modd iddyn nhw ysgogi twf economaidd yn y rhanbarth. Bydd y Fargen sy'n cael ei llofnodi heddiw yn cael effaith economaidd hirdymor a chadarnhaol ar hyd a lled y rhanbarth.

"Mae'r awdurdodau wedi gofyn am i'r Metro fod yn brosiect canolog i'r Fargen Ddinesig hon, ac rydyn ni'n cytuno y gall arwain at ddatblygiad economaidd ehangach.

"Roedden ni'n falch o allu ei gynnwys ac rydyn ni wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda'r awdurdodau i'w gyflawni.

"Rydyn ni hefyd yn ystyried dylanwadau economaidd a hyblygrwydd ariannol ychwanegol i'r awdurdodau, fel caniatáu i'r rhanbarth gadw'r twf yn y gyfradd fusnes a ddaw yn sgil y Fargen drawsnewidiol hon." 
 

Rhannu |