Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Mawrth 2016

Y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ar frig rhestr pryderon rheini o Gymru yn ôl arolwg newydd

Ceisio cydbwyso pwysau gwaith a chyfrifoldebau gofalu am blant ifanc yw prif bryder rhieni plant o dan 5 oed yng Nghymru yn ôl arolwg a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Cymerodd 1,490 o rieni plant rhwng 0 a 5 oed yn yr arolwg yn rhan o’r ymgyrch ‘Rhianta. Rhowch amser iddo’ a gafodd ei lansio gan Lywodraeth Cymru fis Tachwedd diwethaf.

Mae’r ymgyrch yn cynnig awgrymiadau a chyngor defnyddiol i rieni ar sut i annog eu plant i ymddwyn yn well ac i’w hannog hwy eu hunain i roi amser i siarad a gwrando ar eu plant. Mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd gofalu am eu lles eu hunain.

O blith y rhieni a gwblhaodd yr arolwg, dywedodd dwy ran o dair (66%) fod cydbwyso cyfrifoldebau gwaith a theulu yn un o’r tri o’r pryderon mwyaf a mwyaf cyffredin.

Ymhlith y pryderon mwyaf eraill i rieni yng Nghymru oedd gadael eu plentyn am y tro cyntaf ar ôl dychwelyd i’r gwaith ar ôl cael babi newydd a’u plentyn yn dechrau yn yr ysgol neu’r feithrinfa.

Mae Dr Sarah Fitzgibbon yn seicolegydd addysg sy’n arbenigo ar weithio gyda rhieni plant ifanc.

Wrth wneud sylwadau ar yr arolwg dywedodd Dr Fitzgibbon: “Mae canran y teuluoedd sy’n gweithio yn y Deyrnas Unedig gyda’r uchaf ers dechrau cadw cofnodion cymharol yn 1966.

"Mae’r cynnydd uchaf i’w weld ymhlith teuluoedd ag un rhiant a phlant sy’n ddibynnol arnyn nhw.

"Nid yw’n syndod felly bod y gallu i gydbwyso gwaith a bywyd y teulu yn parhau’n un o’r pryderon mwyaf i rieni.

"Gall y cerrig milltir mawr wrth fagu plant, fel dychwelyd i’r gwaith neu blentyn yn dechrau yn yr ysgol neu’r feithrinfa achosi i nifer o rieni deimlo’n bryderus ymhell cyn cyrraedd y diwrnod ei hun.”

Roedd plant yn strancio hefyd yn un o’r tri o’r pryderon mwyaf ar gyfer 31% o rieni gyda phrydau bwyd yn cael ei enwi’n un o’r cyfnodau yn ystod y dydd lle'r oedd rhieni â phlant bach yn teimlo dan bwysau.

Dywedodd 29% fod pryderon am arferion bwyta eu plant neu eu gallu i roi iddynt ddiet iach ymhlith y tri uchaf.

Adlewyrchiad posibl o ddylanwad cynyddol technoleg ar blant ifanc, y defnydd sy’n cael ei wneud o ddyfeisiau fel ffonau clyfar a llechi gan blant ifanc iawn oedd un arall o’r tri o’r pryderon mwyaf gan 27% o’r rhieni yn yr arolwg hwn.

Yn ogystal â’r pryderon mwyaf cyffredin, roedd yr arolwg hefyd wedi datgelu’r amrywiaeth eang o bryderon all boeni rhieni yn amrywio o ymdopi â straen ariannol magu plant i’w hyfforddi i ddefnyddio’r poti a gwlychu’r gwely yn ogystal â gofidiau mwy cyffredinol am fod yn rhieni da.

“Mae gan rieni, yn naturiol ddigon, bryderon sy’n mynd law yn llaw â’r cyfrifoldeb o fagu plant bach,” ychwanegodd Dr Fitzgibbon.

“Gall rhai o’r pryderon hynny fod yn gysylltiedig â sefyllfa bersonol benodol ond mae llawer ohonyn nhw’n debyg iawn i bryderon nifer o rieni eraill.

"Gall cael rhywun i siarad â nhw, boed yn ymwelydd iechyd, gweithiwr proffesiynol ym maes addysg, aelod o’r teulu neu rieni eraill wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

"Gall rhannu eu profiadau roi i rieni yr hyder sydd ei angen arnynt i fynd heibio’r adegau anodd hynny a chanolbwyntio ar fwynhau cyfnod go arbennig ym mywydau eu plant.”

Caiff canfyddiadau’r arolwg magu plant eu defnyddio i ddatblygu ymhellach yr wybodaeth a’r cymorth a geir ar wefan ‘Rhianta. Rhowch amser iddo’ a thudalennau Facebook yn ogystal â helpu Llywodraeth Cymru i lunio gwasanaethau eraill sydd ar gael i rieni plant bach ym mhob cwr o’r wlad.

Ychwanegodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths: “Fel mam, gallaf uniaethu â nifer o’r prif bryderon a gofidiau a godwyd gan rieni a gymerodd ran yn yr arolwg.

“Er gwaetha’r boddhad mawr a geir o fod yn rhieni, nid yw bod yn fam ac yn dad yn hawdd bob amser ac weithiau mae angen ychydig o help llaw. Dyna’r rheswm yr aethon ni ati i lansio ‘Rhianta. Rhowch amser iddo’ sy’n rhoi awgrymiadau a gwybodaeth i helpu rhieni i adeiladu ar eu cryfderau a dysgu ffyrdd newydd o wneud pethau.

“Mae pob mam a thad yn poeni am eu plant – mae hynny’n gwbl naturiol – a gobeithiaf y bydd yr ymgyrch ‘Rhianta. Rhowch amser iddo’ yn rhoi hwb i hyder rhieni ac yn rhoi sicrwydd iddyn nhw eu bod yn gwneud gwaith da.”

I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://giveittime.gov.wales/?skip=1&lang=cy

Rhannu |