Mwy o Newyddion
Taith arall i Gyngor Llyfrau Cymru
Yn dilyn llwyddiant ysgubol Taith Awdur @LlyfrDaFabBooks, a drefnwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru, i ogledd Cymru y llynedd, pan ymwelodd Meleri Wyn James, awdur y gyfres boblogaidd Na, Nel! â 10 o ysgolion a chyfarfod 500 o ddisgyblion, mae’r Cyngor yn trefnu taith arall – y tro yma i ysgolion a llyfrgelloedd yn y gogledd-ddwyrain.
Bydd yr awdur poblogaidd i blant, Dan Anthony, yn ymweld â chwe lleoliad ar 16, 17 ac 18 Mawrth ac mae disgwyl mawr amdano.
Disgyblion ysgolion Bryn Tabor, Bodhyfryd, Madras a Maes y Mynydd yw’r rhai ffodus fydd yn cael cwrdd â Dan Anthony, sydd yn adnabyddus am y gyfres Steve’s Dreams, sy’n cynnwys ei lyfr newydd Steve and the Singing Pirates, a thrioleg The Rugby Zombies. Yna bydd y daith yn parhau gan ymweld â Llyfrgell Llangollen a Llyfrgell Rhuthun.
“Mae cael awdur i ymweld ag ysgol a sgwrsio â’r plant yn gyfle euraid i’r disgyblion,” meddai Sharon Owen o’r Cyngor Llyfrau, trefnydd y daith.
“Mae pawb yn gyfarwydd â gafael mewn llyfr, ei ddarllen a’i ddychwelyd i’r silff, ond ychydig iawn sy’n cael cyfle i gwrdd â’r awdur yn y cnawd.
"Mae’n brofiad arbennig a gobeithiwn y bydd yn ysgogi’r plant i ddarllen wedi i’r awdur adael.”
Cynhaliodd Cyngor Llyfrau Cymru Sioe Awduron yng Nghastell Aberteifi yn ddiweddar gydag awduron megis Caryl Lewis a Huw Aaron yn difyrru 600 o blant o 15 ysgol yn y dalgylch.
Gan fod y digwyddiadau hyn mor boblogaidd gan blant ac oedolion, bydd y Cyngor yn parhau â’r rhaglen hon o weithgareddau.
Mae’r ddau gynllun, sef Taith Awdur a’r Sioe Awduron, yn rhan o gynllun ehangach y Cyngor i hyrwyddo llyfrau plant a phobl ifanc gyda’r cyfrifon Facebook a Twitter @LlyfrDaFabBooks, sydd yn cynnig canolbwynt i’r cyffro a diweddariadau am y gweithgareddau.
Yn ôl Elwyn Jones, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, mae teithiau a sioeau fel hyn yn annog plant i ddarllen ac i drafod llyfrau gyda’i gilydd: “Mae gweithgareddau fel teithiau awdur a sioeau awduron yn cynnig rhywbeth gwahanol i’r plant ac yn rhoi profiad arbennig a chofiadwy iddynt.
"Mae’r ymweliadau hefyd yn gyfle i lyfrwerthwyr ymweld â’r ysgolion a’r llyfrgelloedd i arddangos y dewis gwych o lyfrau sydd ar gael.
"Ein bwriad yw parhau gyda’r ymweliadau hyn i sbarduno diddordeb y plant mewn llyfrau.”
Brynhawn dydd Iau, 17 Mawrth, bydd Ken Skates AC yn ymuno â’r daith i lansio Catalog Llyfrau Plant a Phobl Ifanc 2016, ac i lansio Rhestrau Darllen a luniwyd yn arbennig ar gyfer Diwrnod y Llyfr.
Llun: Dan Anthony