Mwy o Newyddion
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i ddathlu Llambed fel man geni rygbi Cymru
MAE Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn paratoi i ddathlu Llambed fel man geni rygbi yng Nghymru gyda diwrnod llawn o ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â’r gêm.
Ddydd Mercher, 23 Mawrth, rygbi fydd prif ffocws y Brifysgol a’r dref gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau’n cael eu trefnu i goffáu cyfraniad Llambed i’r gamp.
Mae tymor 2015/2016 yn nodi 150 mlynedd ers i’r gêm rygbi gystadleuol gyntaf erioed gael ei chwarae yng Nghymru.
Chwaraewyd y gêm – rhwng Coleg Dewi Sant (Y Drindod Dewi Sant erbyn hyn) a Choleg Llanymddyfri – ar gaeau chwarae’r Brifysgol yn y dref.
Cafodd rygbi’i gyflwyno i Gymru gan y Parchedig Athro Rowland Williams.
Dyma ysgolhaig a ddaeth yn Ddirpwy-Brifathro Coleg Dewi Sant ym 1850 ac unigolyn oedd wedi chwarae rygbi tra’n fyfyriwr yng Ngholeg y Brenin, Caergrawnt.
Mae Undeb Rygbi Cymru hefyd yn rhoi ei gefnogaeth lawn i’r dathliad arbennig hwn gan gydnabod pwysigrwydd Llambed i ddatblygiad rygbi yng Nghymru.
Gydag erthyglau yn archifau’r Brifysgol sy’n cynnwys cyn-fyfyrwyr yn hel atgofion am chwarae rygbi yng Ngholeg Dewi Sant yn Llambed yn yr 1850au, credir bod gemau wedi’u chwarae rhwng myfyrwyr o 1850 ymlaen gyda’r gêm gystadleuol gyntaf i ddefnyddio’r rheolau rygbi yn cael ei chwarae yn 1866.
Cynhaliwyd digwyddiad canmlwyddiant ym 1966 a oedd yn cynnwys gêm rygbi rhwng Coleg Dewi Sant a thîm o XV o wahoddedigion Cymreig.
Roedd y tîm yma o chwaraewyr gwadd yn cynnwys rhai o fawrion y cyfnod, er enghraifft, cyn-ddarlithydd Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, y diweddar Carwyn James; cyn-fyfyriwr o’r Brifysgol yng Nghaerfyrddin, Barry John a’r cawr o chwaraewr, Delme Thomas, sydd bellach yn gymrawd o’r Brifysgol.
Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, mae’r Brifysgol yn cynllunio diwrnod llawn o ddigwyddiadau gan gynnwys gêm rygbi arbennig rhwng y Brifysgol a’r tîm gwadd, yr Academyddion Cymreig (Welsh Academicals).
Cynhelir lansiad ar gyfer llyfr sydd wedi’i ysgrifennu gan yr hanesydd lleol, Selwyn Walters yn olrhain hanes y gêm yn Llambed a bydd cofeb yn cael ei dadorchuddio ar gampws y Brifysgol i goffáu cyfraniad Rowland Williams i rygbi yng Nghymru.
Bydd hefyd arddangosfa yn Llyfrgell Roderic Bowen y Brifysgol a fydd yn cynnwys amrywiaeth o eitemau sy’n gysylltiedig â rygbi a’r Brifsygol.
“Mae’r tymor rygbi 2015/2016 yn un arbennig iawn i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae’n nodi 150 mlynedd ers chwarae’r gêm gystadleuol gyntaf o rygbi yng Nghymru yn ogystal â nodi cyfraniad Rowland Williams i’r gamp,” meddai’r Hybarch Randolph Thomas, Cadeirydd Cyngor y Brifysgol.
“Ein nod yw codi ymwybyddiaeth o gysylltiad Llambed â’r gêm tra hefyd yn rhoi’r cyfle i staff a myfyrwyr y Brifysgol; trigolion Llambed a chefnogwyr rygbi ledled Cymru i ddysgu mwy am hanes a tharddiad y bêl hirgron.
“Rydym yn falch iawn o rôl y Brifysgol yn natblygiad rygbi ac yn hynod bles i fod yn nodi’r pen-blwydd arbennig hwn gyda dathliad cyfffrous.”