Mwy o Newyddion
Safonau ar gyfer cyrff addysg: gwannach na chynlluniau iaith - Angen ail-ystyried yn ôl Cymdeithas yr Iaith
Gydag Aelodau Cynulliad yn pleidleisio ar y drydydd casgliad o Safonau Iaith heddiw, fydd yn dweud pa wasanaethau mae'n rhaid i Brifysgolion a chyrff eraill eu darparu yn Gymraeg, mae ymgyrchwyr iaith wedi dweud bod angen tynnu'r rheoliadau yn ôl a'u hail-lunio er mwyn sicrhau eu bod yn ddigon cryf.
Mewn llythyr i'r Prif Weinidog, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn nodi sawl gwendid yn y Safonau Arfaethedig, gan nodi eu bod yn:
- Cyfyngu hawl myfyrwyr i wasanaethau Cymraeg i restr fympwyol o "weithgareddau"
- Diddymu'r disgwyliad y dylai fod gan fyfyrwyr fynediad at lety cyfrwng Cymraeg, fel y nodir yng nghynlluniau iaith presennol rai prifysgolion
- Hepgor Safonau sy'n sicrhau darpariaeth Gymraeg i bobl sy'n mynd i gyfarfodydd yn ymwneud â'u llesiant personol
Ychwanegodd Manon Elin, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae angen rheolau cryf, sy'n sicrhau bod prifysgolion a chyrff eraill yn parchu hawl pobl i'r Gymraeg – ond yn anffodus, wedi craffu, nid dyma mae'r Llywodraeth yn ei gynnig yr wythnos hon.
"Mae'r Prif Weinidog wedi addo y bydd y Safonau Iaith yn cryfhau gwasanaethau Cymraeg, ond os caiff y Safonau hyn eu pasio fel ag y maent byddant yn wannach na'r cynlluniau iaith.
"Mae gennym bryderon mawr fod geiriad y Safonau hyn yn creu ansicrwydd ynghylch hawliau pobl i'r Gymraeg ac yn cynrychioli cam yn ôl o gynlluniau iaith.
"Mae ganddynt fannau gwan a gallent amddifadu myfyrwyr o'u hawl i lety cyfrwng Cymraeg er enghraifft.
"Mae'r broses o osod Safonau yn rhy araf ac yn rhy gymhleth – rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru sicrhau fod gan bobl Cymru hawl cyffredinol, di-amwys i wasanaethau Cymraeg."
Llun: Manon Elin