Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Mawrth 2016

Clinig symudol arloesol y galon yn helpu i leihau amseroedd aros i gleifion Gogledd Cymru

MAE clinig symudol arloesol sganio’r galon, y cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig, yn helpu i leihau amseroedd aros i gleifion yn ardaloedd gwledig Gwynedd ac Ynys Môn.

Sefydlwyd y clinig gan Dr Graham Thomas, meddyg teulu yn arbenigo mewn problemau’r galon ac mae’n cael ei staffio gan nyrsys arbenigol a ffisiolegwyr cardiaidd yn defnyddio peiriannau symudol o’r radd flaenaf.

Mae’r fenter yn cael ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac mae cleifion o ardaloedd gweledig sydd â phroblemau’r galon a allai beryglu bywyd yn cael mynediad at asesiad, diagnosis a thriniaeth yn agos at eu cartrefi, yn hytrach na theithio i Fangor.  

Cynhelir y clinigau un stop mewn ysbytai cymuned, meddygfeydd neu hyd yn oed yng nghartrefi cleifion sy’n gaeth i’r tŷ.

Viki Jenkins, nyrs arbenigol methiant y galon, yw un o’r rhai cyntaf i weithio ar y cynllun, sydd bellach wedi’i gyflwyno i rannau gwledig eraill o Ogledd Cymru, ynghyd â model tebyg sy’n cael ei ddefnyddio mewn byrddau iechyd eraill.

Mae Viki a’i chydweithwyr yn gweld pobl ag amrywiaeth o broblemau’r galon neu bobl sydd mewn perygl o’u datblygu.

Dywedodd: “Rydym yn defnyddio sganio eco (uwchsain) i roi diagnosis i gleifion am y tro cyntaf neu i roi profion rheolaidd i rai sydd wedi dioddef problemau’r galon yn y gorffennol.

“Mae ein hyfforddiant uwch yn golygu y gallwn ddehongli sganiau ein hunain a rhoi canlyniadau yn y fan a’r lle, yn hytrach na gorfod eu cyfeirio at feddyg ymgynghorol. Gallwn hefyd roi’r camau nesaf ar waith pan fo angen.

“Mewn rhai clinigau, rydym yn defnyddio ein harbenigedd i gynnal asesiadau cyn-llawdriniaeth i edrych ar sut mae calonnau cleifion sydd i fod i gael llawfeddygaeth ac anaesthetig yn gweithio. Mae hyn yn golygu nad oes raid i’r claf fynd i’r ysbyty i gael yr asesiad hwn ac eto i gael y llawdriniaeth.”

Un o’r cleifion sydd wedi croesawu uned symudol y galon ydy Molly Evans sy’n 79 oed. Cafodd ei sganiau arferol cyn-llawdriniaeth gan Viki a’r tîm yn Ysbyty Alltwen, Tremadog.

Mae’r wraig weddw sy’n fam i un wedi byw yn Nolgellau ar hyd ei hoes felly roedd yn falch iawn o gael ei gweld yn lleol.

Dywedodd: “Mae’n well na gorfod mynd i’r ysbyty ym Mangor. Dyma’r tro cyntaf i mi ddefnyddio’r gwasanaeth, ond mae wedi cael ei sefydlu’n broffesiynol iawn, a dylai wneud gwahaniaeth mawr i lawer o bobl.

“Maen nhw i gyd mor glên a chyfeillgar hefyd, ac mae hynny’n mynd ymhell bob amser.”

Ychwanegodd Viki: “Roedd Mrs Evans yn gallu cael ei gweld yn agos at ei chartref, ond hefyd cafodd ei chanlyniadau yn ôl ar yr un pryd, gan fod gennym sgiliau clinigol uwch i edrych ar y sganiau yma.”

Dywedodd Viki: “Rydw i’n cael hyfforddiant ychwanegol yn awr fel y gallaf ddechrau gyda’r claf o’r dechrau a’u gweld drwy’r ymchwilio, drwy ddiagnosis ac yna’r driniaeth.

“Fi yw’r unig nyrs sy’n gwneud hyn yn y Deyrnas Unedig, ac o bosibl yn rhyngwladol, a dylai gallu cynnig y sgiliau ychwanegol hyn ddileu llawer o’r prosesau presennol.

“Ar hyn o bryd, rydw i’n nyrs arbenigol methiant y galon, felly drwy hyfforddi mewn ecocardiograffi hefyd, byddaf yn croesi’r bont rhwng y ddau, ac mae’n ddatblygiad mor newydd, mae’n gallu bod yn hyblyg.

“Byddaf yn gallu esblygu’r rôl a’r gwasanaeth nes ei fod yn gweddu i anghenion y cleifion ac mae’n gwthio ffiniau arferion nyrsio.

“Mae’n gyffrous iawn a dyma’r swydd orau rydw i wedi’i chael erioed mewn gyrfa nyrsio 22 mlynedd, ond yr unig reswm mae’n digwydd yw oherwydd Dr Thomas. Mae mor angerddol am hyn.”

Dywedodd Dr Thomas o Gorwen, sy’n gynghorydd meddygol i nyrsys methiant y galon BIPBC: “Er bod y gwasanaeth ecocardiograffi presennol a dilyniant i gleifion â methiant y galon drwy ddiffyg systolig ar y fentrigl chwith yn cael ei ystyried yn un o’r goreuon yng Nghymru, nid yw cleifion â mathau eraill o fethiant y galon na phroblemau cyffredin eraill y galon fel arfer yn cael gwasanaeth arbenigol lleol.

“Rydym yn gweithio’n galed i ddatblygu gwasanaeth o’r radd flaenaf mewn cardioleg cymuned ar draws y Bwrdd Iechyd cyfan.

“Mae’r cyfleuster symudol hwn yn ddatblygiad cyffrous ac arloesol, ac rydym yn credu mai Viki fydd y nyrs gyntaf yn y Deyrnas Unedig, ac o bosibl yn y byd, i ddatblygu’r sgôp a’r rôl hon.

“Bydd ganddi ran allweddol, gyda’i chydweithwyr ffisioleg, mewn gwella’r gwasanaethau hyn.

“Bydd o fantais anferthol i gleifion, yn enwedig yn rhannau mwyaf gwledig gogledd orllewin Cymru, a dylai olygu bod pobl yn cael eu gweld yn gynt.”

Dywedodd Ffion Johnstone, Cyfarwyddwr Ardal BIPBC (Gorllewin): “Bob mis mae ein staff yn darparu gofal rhagorol ledled Gogledd Cymru ac rydym yn chwilio’n barhaus am ffyrdd arloesol o ddarparu ein gwasanaethau, yn arbenigol ac yn gost effeithiol, er lles ein cleifion.

“Mae’r datblygiad newydd hwn yn rhan o’n strategaeth hir dymor o wrando ar yr hyn y mae ar bobl Gogledd Cymru ei eisiau – gan ddarparu’r gofal cywir, yn y lle cywir gan yr unigolyn cywir.”

Rhannu |