Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Mai 2011

Teyrnged i Dai

GYDA thristwch mawr y mae cynghorwyr Plaid Cymru yng Ngwynedd yn estyn eu cydymdeimlad dwysaf â theulu’r Cynghorydd Dai Rees Jones o Benrhosgarnedd, Bangor. Yn dilyn salwch byr, bu farw’r Cynghorydd yn yr ysbyty nos Lun.

Yn ôl Arweinydd Grŵp Plaid Cymru yng Ngwynedd, Y Cynghorydd Dyfed Edwards: “Bu’n fraint fawr cydweithio â Dai ar hyd y blynyddoedd, ac rydym fel cydweithwyr a chyfeillion yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu, ffrindiau a chymuned Pentir, Penrhosgarnedd o golli’r Cynghorydd Dai Rees Jones mor sydyn.

“Roedd angerdd a brwdfrydedd Dai dros y Blaid a thros ei ardal yn heintus. Roedd yn Arweinydd Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol ar Gyngor Gwynedd ac roedd wrth ei fodd yn gweithio o fewn y maes.

“Bu’n Gynghorydd Cymuned am flynyddoedd lawer a chychwynnodd fel Cynghorydd Sir ym 1978. Roedd Penrhosgarnedd yn agos iawn at ei galon ac roedd yn fab mabwysiedig go iawn i’r ardal.

“Roedd Dai yn ŵr bonheddig, yn gweld y gorau mewn pobl ac yn barod i roi o’i orau dros unrhyw anghyfiawnder. Bydd bwlch mawr ar ei ôl ac rydym yn cydymdeimlo’n ddwys â Marian, ei wraig, Emyr, ei fab, a’r teulu cyfan yn eu profedigaeth.”

Ategodd Aelod Cynulliad y Blaid yn Arfon, Alun Ffred Jones: “Gyda thristwch mawr y clywsom am golli’r Cynghorydd Dai Rees Jones ac mae ein meddyliau heddiw gyda’i deulu a’i ffrindiau.

“Roedd yn ffrind mawr i ni yn etholaeth Arfon, ac yn weithgar iawn dros ei ardal a thros ei annwyl Fangor.

“Er iddo’i fagu yn Llanpumsaint ger Caerfyrddin wedi cyfnod yn fyfyriwr ac yna’n ddarlithydd ym Mangor, yma y bwriodd ei wreiddiau. Bu’n fraint fawr i ni ei fabwysiadu i’r ardal ac rydym yn teimlo i’r byw dros ei deulu a’i ffrindiau yn ystod y cyfnod trist hwn.”

Rhannu |