Mwy o Newyddion
Cynllun newydd i drawsnewid gwasanaethau wroleg yn y GIG yng Nghymru
Mae Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd, wedi cyhoeddi cynllun newydd i drawsnewid gwasanaethau wroleg yn y GIG yng Nghymru i sicrhau y caiff pobl eu gweld gan y clinigwr iawn, yn y lleoliad iawn ac ar yr adeg iawn.
Mae maes wroleg yn cynnwys clefydau'r arennau, y bledren a'r prostad a hefyd cyflyrau megis anymataliaeth, anallu rhywiol, anffrwythlondeb, canser ac ail-lunio'r llwybr cenhedlol-wrinol.
Ledled Cymru, mae oddeutu 53,000 o atgyfeiriadau cleifion allanol newydd bob blwyddyn ym maes wroleg a chaiff 74% ohonynt ryw fath o driniaeth. Yng Nghymru, mae mwy na 4,000 o bobl yn cael diagnosis o ganser wrolegol bob blwyddyn.
Nod y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol newydd ar gyfer Wroleg, a gafodd ei greu gan y Rhaglen ar gyfer Gofal wedi'i Gynllunio, yw gwella profiad cleifion a darparu gwasanaethau cynaliadwy drwy sicrhau bod y GIG yng Nghymru'n gofalu am y rheiny sydd â’r angen iechyd mwyaf yn gyntaf ac yn cynnal yr ymyriadau angenrheidiol yn unig wrth ganolbwyntio ar lai o feysydd â mwy o effaith a chanlyniadau.
Mae'r cynllun yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd ddeall a mesur y galw, y capasiti a'r gweithgarwch ym maes wroleg a chreu mesur o brofiad y claf ar gyfer gwasanaethau wroleg yng Nghymru.
Dyma'r prif newidiadau:
- Dylai byrddau iechyd greu prosesau i atal atgyfeiriadau i ofal eilaidd i'r bobl hynny na fyddant yn cael llawer o fudd o'r atgyfeiriad. Byddant yn cael gofal a thriniaeth briodol drwy wasanaethau yn y gymuned
- Adolygu a, lle bo'r angen, diwygio'r rhestr "pethau na ddylid eu gwneud", a fydd yn cynnwys enwaedu, oni bai bod tystiolaeth glir o balanitis, ffimosis/paraffimosis neu os amheuir bod canser y blaengroen, ac ymchwilio i haematwria anweladwy asymptomatig yn seiliedig ar ganllawiau diweddar y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal
- Er mwyn gwneud y defnydd mwyaf priodol o gapasiti gofal eilaidd a gwella profiad cleifion, dylai byrddau iechyd ddefnyddio gwasanaethau ataliaeth yn y gymuned gymaint ag sy'n bosibl
- Dylai byrddau iechyd fabwysiadu llwybrau un-stop fel mater o drefn i gleifion â haematwria a darparu gwasanaethau dilynol rhithwir i grŵp diffiniedig o gleifion sydd â chanser y prostad
- Bydd smygwyr a phobl sydd â BMI o 35 ac uwch yn cael eu hatgyfeirio i wasanaeth lleol ar gyfer rhoi'r gorau i smygu neu reoli pwysau fel rhan o'u triniaeth weithredol
- Sicrhau bod staff mewn ysbytai, y gymuned ac ym maes gofal sylfaen yn cydweithredu, a grymuso pobl i reoli eu hiechyd a'u llesiant eu hunain
Dywedodd Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd: "Diolch i ddatblygiadau ym maes ymchwil, ynghyd â chynnydd mewn technoleg, mae pobl yn byw yn hirach ac maen nhw'n goroesi clefydau a fyddai wedi eu lladd yn y gorffennol. O ganlyniad i hyn, mae galw ar y GIG yng Nghymru yn fwy nawr nag ar unrhyw adeg arall yn ei hanes.
"Mae angen gweithredu ar frys i sicrhau ein bod ni'n datblygu gwasanaeth gofal wedi'i gynllunio yng Nghymru sy'n gynaliadwy ac sy'n gallu ymateb i'r galw ychwanegol hwn. Rydyn ni'n gwybod nad yw'r amseroedd aros bob amser cystal ag y gallen nhw fod.
"Nod y cynllun newydd hwn yw trawsnewid gwasanaethau ym maes wroleg yn y GIG yng Nghymru. Bydd yn canolbwyntio ar y bobl sydd â mwyaf eu hangen, gan gynnal y driniaeth briodol leiaf bosib wrth ganolbwyntio ar lai o feysydd â mwy o effaith a chanlyniadau."