Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Mawrth 2016

Adfer darn hanfodol o Lwybr Watkin at gopa'r Wyddfa

Gyda chymorth ymgyrch y Cyngor Mynydda Prydeinig, Adfer Ein Mynyddoedd, mae gobaith y bydd darn hanfodol o Lwybr Watkin sy’n arwain at Gopa’r Wyddfa, o’r diwedd yn cael ei adfer.

Nod yr ymgyrch Adfer Ein Mynyddoedd yw codi mwy na £100,000 i atgyweirio llwybrau ar rai o gopaon mwyaf eiconig Prydain. Yn Eryri, rhan o lwybr islaw copa’r Wyddfa sydd angen y gefnogaeth.

Oherwydd y miloedd o gerddwyr bob blwyddyn sy’n ei throedio, ynghyd â sgri ansefydlog, mae’n anodd dilyn y llwybr cywir at y copa. O ganlyniad dros y blynyddoedd, mae’r darn hwn o’r llwybr wedi erydu a datgymalu a chynefinoedd wedi eu dinistrio.

Yn ychwanegol at hyn, mae’r gwaith sylweddol mawr sydd ei angen i ailsefydlu’r llwybr yn glir i gerddwyr, ynghyd â’i leoliad, dros fil o fetrau uwch lefel y môr, yn dasg anodd.

Ar ran Awdurdod y Parc Cenedlaethol, dywedodd y Prif Weithredwr Emyr Williams: “Mae’r Wyddfa yn un o fynyddoedd mwyaf poblogaidd Prydain ac mae Llwybr Watkin yn un hanesyddol bwysig am mai hon, yn rhyfedd ddigon, oedd y llwybr cyhoeddus cyntaf i’w dynodi ym Mhrydain, gan agor cefn gwlad yn swyddogol i gerddwyr.

"Yn barhad o hynny rydym fel Awdurdod Parc Cenedlaethol yn awyddus i sicrhau fod cerdded ar lwybrau megis Llwybr Watkin, yn parhau i fod yn brofiad ysbrydoledig  i ymwelwyr a thrigolion, ac y bydd cerddwyr yn dychwelyd yma, dro ar ôl tro.

"Serch hyn, mae’r lleihad o 14% yn ein cyllideb yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn golygu yn y dyfodol, y bydd hi’n anodd, os nad yn amhosib cyflawni elfennau o’n gwaith beunyddiol o warchod a gwella’r dirwedd.

"Ond, ynghyd â chyfraniad gan y perchnogion tir, sef yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’n gwaith gyda Phartneriaeth yr Wyddfa, byddwn yn cyfrannu’n sylweddol at y gost o atgyweirio’r rhan benodol hwn o Lwybr Watkin.

"Yn anffodus oherwydd maint y gwaith sydd ei angen, heb gyfraniad ychwanegol gan yr ymgyrch Adfer Ein Mynyddoedd, fe fyddai bron yn amhosib cyflawni’r gwaith sy’n angenrheidiol ar un o fynyddoedd mwyaf poblogaidd Prydain.”

Bydd yr ymgyrch Adfer Ein Mynyddoedd yn rhedeg o Fis Mawrth 14 tan Fis Mai 14eg a bydd yr arian a godir drwy’r ymgyrch ariannu torfol yn cael ei sianelu i brosiectau gwahanol drwy Ymddiriedolaeth Cadwraeth a Mynediad y CMP.

Mae modd cyfrannu i brosiect Llwybr Watkin yn unig, neu at yr ymgyrch yn gyffredinol.

Am fwy o fanylion sut i gyfrannu i’r apêl, ewch i www.crowdfunder.co.uk/mendourmountains

Rhannu |