Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Mawrth 2016

Plaid Cymru yn croesawu safbwynt NFU Cymru ar refferendwm yr UE

Mae Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Faterion Gwledig, Llyr Gruffydd AC, wedi croesawu’r datganiad ddydd Gwener gan NFU Cymru fod buddiannau amaethyddiaeth Cymru yn cael eu hamddiffyn orau trwy aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Ychwanegodd fod y penderfyniad yn dangos fod arweinydd Ceidwadwyr Cymru allan o gysylltiad â’r gymuned amaethyddol yng Nghymru, gydag NFU Cymru ac UAC yn cefnogi aros yn yr UE yn refferendwm mis Mehefin.

Mae Cymru i fod i dderbyn rhyw £2bn mewn taliadau trwy Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd rhwng 2014 a 2020 - rhywbeth y mae Llywodraeth San Steffan wedi argymell ei dorri petai’r pwerau yn nwylo Llundain.

Dywedodd Llyr Gruffydd AC: “Mae NFU Cymru, fel UAC, wedi penderfynu y byddai’n well i amaethyddiaeth Cymru petaem yn aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

“Bydd Cymru ar ei hennill o ryw £2bn rhwng 2014 a 2020 trwy daliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin sydd yn cynnal mwy na 80% o ffermydd.

“Yn y cyd-destun hwnnw, byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn drychinebus i’r diwydiant ffermio yng Nghymru - ond dyna safbwynt arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Dywed y diwydiant amaethyddol y byddai buddiannau amaethyddiaeth Cymru yn cael eu gwarchod yn well trwy aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ond mae llawer o Dorïaid Cymru eisiau gadael.

“Yn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai, allwn ni ddim ymddiried yn y Torïaid i fod o blaid amaethyddiaeth Cymru.”

Rhannu |