Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Mawrth 2016

Ymdrechion cartrefi gwyrdd Llafur yn methu ateb yr her

Dywedodd Gweinidog Amgylchedd cysgol Plaid Cymru Llyr Gruffydd nad yw Llafur yn gallu ateb her newid hinsawdd, a bod angen cynlluniau Plaid Cymru i gyflwyno rhaglen effeithiolrwydd ynni newydd i gartrefi os yw Cymru am gwrdd â’i tharged allyriadau.

Beirniadodd Llyr Gruffydd ymdrechion presennol y llywodraeth Lafur i ôl-ffitio cartrefi, gan rybuddio nad yw eu rhaglenni effeithiolrwydd ynni yn agos at y raddfa sydd ei angen i gwrdd â manit yr her. Os aiff ymdrechion y llywodraeth Lafur i ôl-ffitio cartrefi ymlaen ar y raddfa bresennol, dywedodd y cymerai 78 mlynedd i gyrraedd y lefel o effeithiolrwydd ynni sydd ei angen yng nghartrefi Cymru.

Mae Plaid Cymru wedi addo cyflwyno’r rhaglen effeithiolrwydd ynni fwyaf a welodd Cymru erioed.

Dywedodd Llyr Gruffydd: “Byddai llywodraeth Plaid Cymru ar ôl mis Mai yn cychwyn ar y rhaglen effeithiolrwydd ynni cartrefi fwyaf a welodd Cymru erioed. Byddai hon yn rhaglen gwerth biliynau o bunnoedd i drawsnewid yr hyn yw ar hyn o bryd y stoc tai sydd ymhlith y lleiaf ynni-effeithiol yn Ewrop.

“Nid yn unig y byddai hyn yn helpu i greu swyddi, ond fe fyddai hefyd yn mynd i’r afael â thlodi tanwydd ac yn gostwng allyriadau carbon. Ennill, ennill, ennill i Gymru.

“Byddai dod â’r tai sy’n perfformio waethaf i fynyd i raddfa ddigonol yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o dai o 40%, ac yn gostwng nifer yr aelwydydd mewn tlodi tanwydd o 40%, gan leihau biliau ynni i bobl yng Nghymru o £423 miliwn y flwyddyn.

“Byddai hyn yn codi’r nifer sylweddol o 132,000 o aelwydydd allan o dlodi tanwydd, a mantais ychwanegol fyddai lleihau nifer yr afiechydon resbiradol a marwolaethau gaeaf oherwydd oerfel ymysg yr henoed – gan ysgafnhau peth o’r pwysau ar ein gwasanathau iechyd sydd dan straen.

“Ac yn y broses, byddai’n creu 6,000 o swyddi uniongyrchol a thros 14,000 o swyddi gros, pan fyddwch yn ystyried y gwariant ar y gadwyn gyflenwi a’r effaith lluosydd.

“Mae Llafur wedi bodloni ar eu rhaglenni cymedrol fu ond yn gymharol lwyddiannus. Mae’n amlwg nad yw Llafur yn gallu ateb yr her, a bod angen camau mwy pendant. Llywodraeth Plaid Cymru yw’r newid sydd ar Gymru ei angen.”

Rhannu |