Mwy o Newyddion
Ai chi yw Dysgwr y Flwyddyn eleni?
Dim ond ychydig wythnosau sydd i fynd cyn dyddiad cau cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni. Rhaid i’r ceisiadau gyrraedd erbyn 31 Mawrth er mwyn cael eu hystyried ar gyfer un o brif wobrau’r Eisteddfod.
Mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw un sydd dros ddeunaw oed ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Daw’r cyn-enillwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt - gyda mwy nag un enillydd yn byw a gweithio ym Mhatagonia!
Mae amryw yn cystadlu pan ddaw’r Eisteddfod i’r ardal leol, gyda’r holl weithgareddau cymunedol yn rhoi hwb i hyder nifer fawr o ddysgwyr. Ond does dim rhaid aros i’r Eisteddfod ddod i’ch ardal chi cyn meddwl am gystadlu. Os oes gennych chi ddiddordeb eleni, beth amdani? Mae’n hawdd cystadlu. Lawr lwythwch y ffurflen gais o’r llyfryn gwybodaeth ‘Beth Amdani’ ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru/cystadlaethau/dysgwyr, ac ewch amdani! Gallwch gwblhau’r ffurflen eich hun, neu ofyn i rywun eich enwebu ar gyfer y gystadleuaeth.
Mae llawer o’r cystadleuwyr yn cael eu henwebu gan deulu, ffrindiau neu diwtor. Mae dysgu unrhyw iaith yn her, ac mae cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn gyfle gwych i gydnabod eu camp ac i’w llongyfarch ar eu llwyddiant.
Mae pobl yn dysgu Cymraeg am nifer o wahanol resymau. Mae rhai yn dewis dysgu gyda’u plant, eraill oherwydd eu gwaith neu i deimlo’n rhan o’r gymuned, a rhai oherwydd eu bod yn chwilio am her newydd. Beth bynnag y rheswm, mae dysgu Cymraeg yn sgil ychwanegol ac yn gyfle i chi fod yn rhan o ddiwylliant arall, sy’n fywiog, yn tyfu ac yn edrych i’r dyfodol.
Gari Bevan o Ferthyr oedd enillydd cystadleuaeth 2015, a dywed, “Mae dysgu Cymraeg wedi bod yn bwysig iawn i mi. Cafodd fy mhlant addysg Gymraeg ac rwyf wrth fy modd yn siarad Cymraeg gyda’r teulu nawr. Rydw i’n annog unrhyw un i fynd ati i ddysgu’r iaith, ac os ydych chi wedi dysgu, beth am gymryd rhan yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni?
“Mae ennill y gystadleuaeth wedi bod yn brofiad arbennig. ‘Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill wrth gyrraedd y rownd derfynol. Ac rydw i’n gobeithio y bydd ennill y gystadleuaeth yn hwb neu’n ysbrydoliaeth i bobl eraill i anfon eu cais eleni. Pob lwc i bawb sy’n cystadlu eleni.”
Cysylltwch â Gill Griffiths ar 0845 4090 300 neu gill@eisteddfod.org.uk am ragor o wybodaeth am y gystadleuaeth, neu ewch ar-lein.
Llun - Gari Bevan o Ferthyr oedd enillydd cystadleuaeth 2015