Mwy o Newyddion
Agor cartrefi sy'n amddiffyn pobl rhag effeithiau'r Dreth Ystafell Wely
Mae'r Gweinidog Lesley Griffiths wedi agor yn swyddogol ddatblygiad tai gwerth £4.8 miliwn yng nghanol Caerdydd i helpu pobl y mae'r Dreth Ystafell Wely, sydd wedi'i chyflwyno gan Lywodraeth y DU, wedi effeithio arnyn nhw.
Mae datblygiad Bailey’s Court United Welsh yn Adamsdown, sydd wedi cael £2.7 miliwn gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys 49 o fflatiau un a dwy ystafell wely. Mae'r cynllun tai fforddiadwy yn rhoi cyfle i denantiaid symud i gartref llai o faint, yn ogystal â rhoi diogelwch yn yr hirdymor a rhent fforddiadwy.
Mae'r cynllun, sydd wedi'i greu ar hen safle Tafarn Rumpole, hefyd wedi rhoi hwb i'r economi leol, gan roi prentisiaeth werthfawr i 9 o bobl leol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu pobl y mae'r Dreth Ystafell Wely wedi effeithio arnyn nhw, gan fuddsoddi £40 miliwn mewn cartrefi llai o faint dros y tair blynedd diwethaf.
Dywedodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths: “Mae'n bleser gennyf agor Bailey's Court yn swyddogol, sy'n rhoi tai o ansawdd i bobl leol.
"Mae'n braf iawn gweld bod Llywodraeth Cymru wedi gallu helpu'r datblygiad hwn am ei fod yn cynnwys eiddo fforddiadwy, llai o faint.
"Mae'n hollbwysig ein bod yn buddsoddi mewn eiddo fel y rhain er mwyn diogelu pobl yng Nghymru rhag y Dreth niweidiol, sef y Dreth Ystafell Wely, sydd wedi'i chyflwyno gan Lywodraeth y DU.
"Mae gwaith partneriaeth cryf rhwng United Welsh, Cyngor Caerdydd, Gwasanaethau Prosiect Jehu a Llywodraeth Cymru wedi gwneud y cynllun hwn yn bosib.
"Rwy'n ddiolchgar iddyn nhw - ac i'n partneriaid ar hyd a lled Cymru - am ein helpu i gynyddu nifer y cartrefi o ansawdd da.
"Gyda'u cymorth gwerthfawr rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed o ddarparu 10,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn ystod tymor y llywodraeth hon.
“Mae buddsoddi mewn cartrefi fforddiadwy'n creu tai o ansawdd i bobl leol ac mae hefyd yn rhoi hwb i'r diwydiant adeiladu ac yn creu swyddi a chyfleoedd hyfforddi lleol.
“Mae wedi bod yn wych clywed profiadau cadarnhaol preswylwyr yn Bailey's Court a dymunaf bob lwc iddyn nhw yn eu cartrefi newydd.”
Cafodd y Gweinidog gyfle i gwrdd â Viktorija Bekta, sy'n byw yn Bailey’s Court gyda'i merch ddwy flwydd oed, Paulina.
“Ro'n ni'n byw yn y sector rhentu preifat o'r blaen ond ro'n i eisiau'r diogelwch sy'n dod o fyw mewn cartref cymdeithas dai felly ro'n i wrth fy modd pan glywais mod i'n gallu cael un o'r fflatiau hyn,” meddai Viktorija.
“Mae Paulina'n gallu cael ystafell wely i'w hun nawr sy'n bwysig iawn ac ry'n ni gyd yn hapus iawn yma.”
Dywedodd Cadeirydd United Welsh, Ian Gilbert: “Roedd yn bleser gennym ddarparu'r cartrefi hyn yng nghanol dinas Caerdydd sydd â chysylltiadau da â thrafnidiaeth gyhoeddus ac sydd o fewn cyrraedd hawdd cyfleusterau lleol.
"Mae Bailey's Court yn berffaith i bobl sydd angen symud i gartref llai o faint neu fod yn agosach at eu gweithle. Rydym yn hapus i fod wedi creu cymuned gynaliadwy arall mewn lleoliad gwych."
Llun: Lesley Griffiths gyda Viktorija Bekta a'i merch Paulina