Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Mawrth 2016

Leanne Wood: Y Ceidwadwyr yn bygwth conglfeini cymdeithas gref a theg

Wrth i'r Ceidwadwyr Cymreig baratoi i gwrdd ar gyfer eu Cynhadledd Wanwyn fory, mae Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi honni fod eu cynlluniau ar gyfer llywodraeth "yn bygwth conglfeini cymdeithas gref a theg."

Wrth gyfeirio at gynlluniau'r Ceidwadwyr ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd, y system addysg a'r economi Gymreig, rhybuddiodd Leanne Wood y byddai Cymru'n symud 'yn ôl, nid ymlaen' dan weinyddiaeth Geidwadol, ac mai dim ond Plaid Cymru sy'n cynnig dewis amgen i Lafur gyda'r gallu a'r uchelgais i newid Cymru er gwell.

Dywedodd Leanne Wood: "Mae'r blaid Geidwadol yng Nghymru yn aml yn portreadu etholiad y Cynulliad fel brwydr rhyngddynt hwy a Llafur. Mae hwn yn ddewis ffug.

"Nid oes rhaid i'n cenedl wynebu dyfodol 'drwg neu waeth' gyda un o'r ddwy blaid hon sy'n cael eu blaenoriaethau wedi eu penderfynu gan eu pencadlys yn San Steffan.

"Heb os, pe bai'r Ceidwadwyr yn cael gafael ar rym yng Nghymru ar ol Mai, byddent yn bygwth conglfeini cymdeithas gref a theg.

"Blaenoriaeth Plaid Cymru yn yr etholiad hwn yw ein Gwasanaeth Iechyd hollbwysig. Rydym wedi amlinellu cynlluniau clir i dorri amseroedd aros, taclo prinder staff a gwella gofal i gleifion canser a dementia.

"Does ond rhaid i ni edrych dros y ffin i gael blas o'r hyn fyddai ar y gorwel i Gymru pe bai dyfodol ein NHS yn cael ei roi yn nwylo'r Toriaid. Preifateiddio ar y slei a staff yn streicio yw dim ond dechrau eu hymdrechion i ddatgymalu ein gwasanaeth cyhoeddus mwyaf gwerthfawr.

"Ar addysg hefyd, mae eu cynlluniau ar gyfer cefnogaeth rhent i fyfyrwyr yn dangos nad ydynt yn deall anghenion ein pobl ifanc. Tra y bydd Plaid Cymru yn gwobrwyo myfyrwyr am weithio yng Nghymru ar ol graddio, mae gan y Toriaid fwy o ddiddordeb mewn gwobrwyo landlordiaid.

"Mae'r llwybr llymder sy'n cael ei ddilyn gan y llywodraeth Geidwadol yn San Steffan, ynghyd a'u cecru mewnol ar yr UE a'r ansicrwydd mae hynny'n ei achosi yn dangos nad ydynt yn gymwys i redeg yr economi Gymreig.

"Tra bod Plaid Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau uchelgeisiol i gefnogi busnesau, creu swyddi a buddsoddi mewn isafeiledd er mwyn roi hwb i dwf, mae'r Ceidwadwyr yn parhau i fod ynghlwm a mantra economaidd anghyfrifol o gynyddu prisiau tai a dyled bersonol sy'n bygwth cwymp ariannol arall.

"Gyda llywodraeth Geidwadol, byddai Cymru'n symud nol, nid ymlaen. Plaid Cymru yw'r unig blaid sy'n cynnig dewis amgen i Lafur fyddai a'r gallu a'r uchelgais sydd ei angen i newid Cymru er gwell."

Rhannu |