Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Mawrth 2016

Siarter y Gymraeg i gael ei hymestyn ledled Cymru

Bydd Siarter y Gymraeg yn cael ei hymestyn i bob un o ysgolion cynradd Cymraeg a dwyieithog ledled Cymru, meddai’r Prif Weinidog heddiw.

Caiff Siarter y Gymraeg, a ddatblygwyd gan Gyngor Gwynedd yn 2011 gyda chymorth Llywodraeth Cymru, yn darparu fframwaith clir i ysgolion hyrwyddo a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg gan blant a phobl ifanc a hynny mewn cyd-destun cymdeithasol.

Mae Siarter y Gymraeg yn annog pob aelod o gymuned yr ysgol i gymryd rhan, ac mae aelodau o weithlu a chynghorau’r ysgol, y disgyblion a’u rhieni, llywodraethwyr yr ysgol a'r gymuned ehangach yn cael eu galluogi i gymryd perchnogaeth o'r broses.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru: "Heb os nac oni bai mae gan y system addysg rôl hollbwysig wrth sicrhau dyfodol yr iaith. Er hynny, ni all addysg a hyfforddiant yn unig gynnig sicrwydd bod siaradwyr yn dod yn rhugl yn y Gymraeg, neu’n dewis defnyddio'r iaith yn eu bywyd bob dydd.

"Mae Siarter y Gymraeg wedi bod yn llwyddiant mawr o ran cynyddu'r defnydd o'r iaith y tu allan i'r ystafell ddosbarth, felly rwyf wrth fy modd heddiw’n cyhoeddi ei bod yn cael ei hymestyn ledled Cymru. Mae hwn yn gam hanfodol o ran cyflawni ein nod o weld yr iaith yn ffynnu a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg mewn bywyd bob dydd."

Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg: "Rydym wedi ymrwymo i gyflawni gwelliannau parhaus ym maes addysgu a dysgu’r Gymraeg a sicrhau ffyniant hirdymor yr iaith.

"Mae canfyddiadau'r gwerthusiad o’n Strategaeth ar gyfer Addysg Gymraeg yn dangos bod cefnogaeth eang i’n nodau a’n gweledigaeth.

"Maent yn dangos hefyd bod y Strategaeth wedi arwain at nifer o ganlyniadau cadarnhaol gan gynnig fframwaith sy’n mynd ati mewn ffordd fwy pendant a strategol i gynllunio darpariaeth Gymraeg.

"Wrth gwrs fe wyddom fod mwy i'w wneud ac rwyf yn falch o gadarnhau y byddwn yn blaenoriaethu rhywfaint o fuddsoddiad o dan y Grant Gwella Addysg i gyflwyno Siarter y Gymraeg yn raddol i bob ysgol Gymraeg a dwyieithog ym mhob un o’n 22 o awdurdodau lleol.

"Siarter sydd eisoes wedi dwyn ffrwyth yng Ngwynedd yw hon ac edrychaf ymlaen at weld y cynnydd hwn yn cael ei ymestyn i bob cwr o Gymru." 

 

Rhannu |